Mae gan y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru bron i 3,000 o swyddi gofal iechyd gwag yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.
Mae diffyg o 2,201 mewn nyrsys a bydwragedd, yn ogystal â 771 gweithwyr proffesiynol meddygol neu ddeintyddol, yn ychwanegu i’r pwysau sydd ar y gwasanaeth.
Roedd bron i draean (32%) o’r bwlch yn nifer y nyrsys i’w weld ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yng ngogledd Cymru.
Gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda oedd y mwyaf o swyddi gwag mewn proffesiynau meddygol neu ddeintyddol, a hynny’n gyfanswm o 276.
Mae 162 swydd wag ar ben hynny i weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, sy’n cynnwys swyddi fel osteopathiaid a ffisiotherapyddion.
Roedd yr adroddiad gan y Ceidwadwyr hefyd yn datgelu bod £144m wedi ei wario ers 2016/17 ar gyflog goramser i weithwyr proffesiynol perthynol.
‘Gwaddol blynyddoedd o reolaeth wael’
Wrth ymateb i’r ffigyrau, mae Russell George, Gweinidog yr Wrthblaid dros Iechyd, wedi cyhuddo’r Llywodraeth Lafur o roi “straen aruthrol” ar y Gwasanaeth Iechyd.
“Mae recriwtio a chadw staff yn un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu GIG Cymru, gyda thyllau amlwg mewn staffio rheng flaen bellach yn effeithio ar bob bwrdd iechyd a’r rhan fwyaf o ddisgyblaethau meddygol,” meddai.
“Mae’r sefyllfa bresennol yn amlwg yn effeithio ar ofal cleifion ac mae’n waddol blynyddoedd o reolaeth wael gan Lywodraeth Lafur Cymru ym Mae Caerdydd.
“Mae cael miloedd o swyddi gwag mewn cenedl o faint Cymru yn arwydd o ddryswch a llaesu dwylo ar ran y Llywodraeth.
“Mae angen strategaeth recriwtio a chadw mwy cadarn gan ei bod yn amlwg bod yr un sydd ar waith gan weinidogion Llafur yn gwbl aneffeithiol ac wedi rhoi ein GIG dan straen aruthrol.”