Mae grŵp ymgyrchu Cernyweg yn bygwth gweithredu’n uniongyrchol oni bai yr eir i’r afael a’r argyfwng ail gartrefi.

Dywed Kernow Matters eu bod yn barod i rwystro’r prif ffyrdd ffyrdd i Gernyw os nad eir i’r afael â’r problemau tai sy’n cael effaith niweidiol ar Gernyw a’i phobl.

Mae’r materion yn adlewyrchu’r rhai yng Nghymru ynglŷn â pherchnogaeth ail gartref yr ystyrir eu bod yn achosi prisiau tai cynyddol, yn disodli pobl ifanc ac yn newid cymeriad ardal.

Dywedodd llefarydd ar ran Kernow Matters: “Rydym yn haeddu tai fforddiadwy ac eiddo ar rent. Nid maes chwarae yw Cernyw, nid man poblogaidd a braf i dwristiaid yn unig i fyw wrth y traeth os oes gennych yr arian ar ei gyfer – ein cartref ni ydyw, ein diwylliant ni, ein teulu, ffrindiau, bywoliaeth – ac ni allwn hyd yn oed fforddio byw yma.

“Dim mwy o ail gartrefi. Dim rhenti afresymol. Dim mwy o letyau gwyliau yn lle cartrefi’r cyngor. Digon yw digon.”

Argyfwng

Mae’r grŵp, a ffurfiwyd yn 2015 i ‘ddathlu diwylliant Cernyw, hanes, iaith a cherddoriaeth’, yn dweud eu bod yn trafod y posibilrwydd o rwystro ffyrdd yr A30 a Phont Tamar i’r sir.

Maent wedi cyhoeddi cyfres o alwadau sy’n cynnwys sefydlu Cynllun Gweithredu Argyfwng Tai dan arweiniad y gymuned, cau bylchau treth a chyllid i adeiladu cartrefi fforddiadwy i deuluoedd lleol.

Heddiw fe gynhaliodd grŵp Yes Kernow ddiwrnod heddychlon o weithredu ar drofan yn St Austell gyda dwsinau o bobl yn chwifio baneri Cernyw a phlacardiau tebyg i A Home is For Life Not Just August’ wrth i yrrwyr cerbydau ddangos eu cefnogaeth wrth eu pasio ar ochor y ffordd.

Rali

Cynhaliwyd protestiadau yn erbyn perchnogaeth ail gartref yng Nghymru fis diwethaf gyda channoedd yn mynychu rali yn argae Tryweryn i alw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng tai.

Mae Plaid Cymru wedi beirniadu cynllun gweithredu a amlinellwyd gan Lywodraeth Cymru fel un ‘gwan’ ac ymgais i ‘gicio’r broblem i’r glaswellt hir’.

Mae’r cynlluniau presennol yn cynnwys cynllun cofrestru statudol ar gyfer llety gwyliau a mwy o gymorth i fynd i’r afael â fforddiadwyedd ac argaeledd tai.

Dywed Llywodraeth Cymru y byddan nhw’n dewis ardal beilot i brofi’r cynllun gyda Chynllun Tai Cymunedol Cymraeg pellach i’w gyhoeddi yn yr hydref.