Mae ffermio, cynnyrch cig coch a llaeth wedi bod “o dan y lach ers blynyddoedd gan y lobi gwrth-dda byw”.

Dyna ddywedodd Ian Rickman, un o ddirprwy lywyddion Undeb Amaethwyr Cymru, mewn gweminar yn trafod manteision cynhyrchu bwyd wrth ofalu am yr amgylchedd.

Trefwnyd y weminar gan Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) gan fod yr amgylchedd wedi dychwelyd yn gyflym i fod yn un o’r prif heriau sydd yn eu hwynebu.

Bydd Uwchgynhadledd Systemau Bwyd y Cenhedloedd Unedig yn cael ei gynnal yn fuan a’r DU yn cynnal uwchgynhadledd newid hinsawdd fawr nesaf y Cenhedloedd Unedig, COP26, yng Nglasgow ym mis Tachwedd.

Meddai Rickman, sy’n ffermio fferm ddefaid yn Gurnos, ger Llandeilo, Caerfyrddin:  “Ers blynyddoedd mae’r diwydiant ffermio a’n cynnyrch cig coch a llaeth wedi dod o dan y lach o bob cyfeiriad posibl.

“Fodd bynnag, mae’r naratif a wthiwyd gan y lobi gwrth-dda byw wedi bod yn gyson ac yn ennill momentwm.

“Mae’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ar bob lefel o’r llywodraeth, o Lywodraeth Cymru hyd at y Cenhedloedd Unedig, yn gwrando. Ac felly hefyd ein defnyddwyr.”

Ymosodiadau

Ni soniodd Rickman fwy am bwy yr oedd yn eu hamau o wneud ymosodiadau ar y diwydiant.

Mae llawer o ymgyrchwyr wedi honni dros y blynyddoedd bod ôl-troed carbon ffermio da byw yn uwch nag ôl-troed cynhyrchu cnydau.

Hefyd, mae rhai’n dadlau bod cynhyrchu cig coch yn defnyddio mwy o ddŵr, tir a phorthiant yn gyffredinol.

Roedden nhw’n cyfeirio yn y weminar at ffigyrau sy’n awgrymu bod ffermio ddim yn cael cymaint o effaith ar yr amgylchedd fel mae llawer yn ei honni.

Maen nhw hefyd yn beirniadu cynlluniau “dinistriol” i gynyddu’r nifer o goetiroedd ar draws Cymru.

Gostwng

Cyfeiriodd Pennaeth Polisi UAC, Dr Nick Fenwich, at ffigyrau oedd yn dangos bod niferoedd da byw wedi gostwng dros y blynyddoedd.

Dywedodd fod nifer y defaid wedi codi o tua 4 miliwn ynghanol yr 20fed Ganrif i hyd at 12 miliwn ar ddiwedd y 1990au, cyn gostwng i’r lefel bresennol o tua 10 miliwn.

Roedd nifer gwartheg Cymru wedi gostwng o tua 1.6 miliwn yng nghanol y 1970au i tua 1.1 miliwn heddiw, tra bod nifer y moch wedi gostwng yn ddramatig o tua 300,000 yn y 1960au i ddim ond ychydig ddegau o filoedd heddiw.

“Bu’r naratif ers degawdau bod y cynnydd yn nifer y defaid wedi digwydd mewn rhanbarthau mynyddig ac roedd hynny’n wir mewn rhai ardaloedd ar rai adegau,” meddai.

“Ond os edrychwch ar y ffigurau, symleiddio gros o’r hyn sydd wedi digwydd ydyw mewn gwirionedd.

“Mewn ardaloedd helaeth o Gymru, mae nifer y defaid yn yr ucheldiroedd bellach yn llawer is nag yr oeddent tua 100 mlynedd yn ôl, er enghraifft yn ystâd Cwm Elan neu ar Bumlumon.”

Coetiroedd

Fe amlygodd Dr Fenwick bod gostyngiad mawr yn faint o dir Cymru sy’n cael ei ddefnyddio i dyfu cnydau yn ystod y 150 mlynedd diwethaf, gyda thir tyfu’n cael ei droi yn dir i dda byw gael pori.

Rhwng 1867 a 2017, fe ostyngodd yr ardal yng Nghymru lle mae cnydau’n cael eu tyfu o tua 300,000 hectar i ddim ond 93,000 hectar.

Er hynny, mae Dr Fenwick yn honni bod cynnydd wedi bod yn y coetiroedd hefyd, sy’n cyfri am gyfran o’r gostyngiad.

Mae Dr Fenwick yn amau bod hynny wedi gadael ôl amgylcheddol oherwydd y newid sylweddol i’r tir.

Er hynny,bmae coed yn cael eu gweld fel ffordd i leddfu’r gyfran o garbon deuocsid sydd yn yr amgylchedd.

“Ers 1905, mae arwynebedd coetir Cymru wedi cynyddu tua 250%,” meddai.

Dinistriol

Fodd bynnag, mae’r cynnydd hwnnw wedi bod yn ddwys mewn rhai ardaloedd, gydag effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd dinistriol.”

Mae’r tri prif blaid yng Nghymru wedi gwneud addewid i gynyddu’r nifer o goetiroedd yng Nghymru.

Mae Plaid Cymru am weld 600,000 hectar o goetir erbyn 2050, y Blaid Lafur eisiau bron i 500,000 hectar, tra bod y Blaid Geidwadol am weld y cyfanswm yn cynyddu i 450,000 hectar.

Mae Dr Fenwick yn credu bod angen mwy o ymchwil i’r effaith ar dir cyn ailgoedwigo.

“Mae’r pwysau hwnnw wrth gwrs yn dod yn bennaf o’r sgwrs ynghylch newid yn yr hinsawdd,” meddai Dr Fenwick.

“Rydym wrth gwrs yn cytuno â mesurau i liniaru newid yn yr hinsawdd, y cwestiwn yw sut rydych chi’n gwneud hynny.

“Rhaid i ni fel diwydiant fod yn realistig a sicrhau bod y goeden iawn yn y lle iawn.”