Mae ansicrwydd o hyd ynghylch brechu plant, yn enwedig ymhlith rhieni, yn ôl ymchwil newydd.

Datgelodd astudiaeth gan Dr Simon Williams o Brifysgol Abertawe fod gan y cyhoedd farn gymysg ynghylch brechu plant, ac yn gyffredinol, roedd brechiadau Covid-19 i blant yn cael eu hystyried yn fater cymhleth heb un ateb syml.

Un o’r prif resymau am hyn oedd bod pobol yn llai tebygol o gymryd risg ar gyfer yr hyn maen nhw’n weld fel risgiau hirdymor anhysbys y brechlyn i blant.

Er bod nifer yn barod i gymryd y risg ar gyfer nhw eu hunain, roedden nhw’n teimlo y byddai plant yn fwy tebygol o fod yn agored i niwed, a’u bod nhw eisiau aros am ragor o dystiolaeth.

Yn unol â chyngor y Cydbwyllgor ar Imiwnedd a Brechu, mae gwahoddiadau wedi dechrau cael eu gyrru i bobol ifanc 16 ac 17 oed gael eu brechu heddiw. 

Canfyddiadau

Rheswm eraill dros betruster oedd ansicrwydd a allai plant ddal, trosglwyddo neu gael eu niweidio’n ddifrifol gan Covid-19.

Roedden nhw hefyd yn poeni a allai plant ddioddef yn sgil normau cymdeithasol ymhlith rhieni nad oedd am i’w plant gael eu brechu eto.

Fodd bynnag, un rheswm allweddol pam bod pobol yn cefnogi brechiadau i blant oedd dymuniad i barhau i ddiogelu eraill yn y gymdeithas.

Roedd y rhai oedd yn fwy ansicr am frechiadau i blant, neu’n eu gwrthwynebu, yn tueddu i gysylltu’r rhaglen frechu’n fwy â llywodraeth a gwleidyddiaeth.

Dangosodd yr ymchwil fod y rhai oedd yn fwy agored neu gefnogol i’r syniad yn tueddu i gysylltu’r rhaglen frechiadau’n fwy â gwyddoniaeth a’r gwasanaeth iechyd.

Roedd y bobol hynny’n dadleu y bydden nhw’n fwy tebygol o gefnogi’r syniad o frechu plant pe gallai gwyddonwyr a rheoleiddwyr ddangos eu bod nhw’n ddiogel.

“Gweithio gyda rhieni”

“Ystyriodd yr astudiaeth hon agweddau’r cyhoedd at hyn, gan ganfod bod llawer o ansicrwydd, er bod teimladau’n gymysg,” meddai Dr Simon Williams, Uwch-ddarlithydd mewn Pobol a Sefydliadau ym Mhrifysgol Abertawe.

“Gallai hyn fod oherwydd bod pobol, a rhieni’n benodol, yn tueddu i fod yn llawer mwy gwrth-risg wrth ystyried risg i blant o’i gymharu â’u hagwedd at risg iddyn nhw eu hunain.

“O ganlyniad, mae’n ymddangos bod llawer yn meddwl bod risgiau’r brechiad yn fwy na’r buddion – oherwydd diffyg tystiolaeth yn eu llygaid nhw am ddiogelwch y brechiad ymhlith plant, yn enwedig yn y tymor hir, ar y cyd â’r ffaith nad yw’r clefyd mor beryglus i blant ag ydyw i oedolion.

“Fodd bynnag, mae’n bosib y bydd yr ansicrwydd hwn yn dechrau lleihau, yn yr un ffordd ag a wnaeth gyda brechiadau i oedolion dros y flwyddyn ddiwethaf, os, a phryd, caiff y brechlyn ei gymeradwyo i’w ddefnyddio ymhlith pant hŷn yn y Deyrnas Unedig, wrth i fwy o dystiolaeth ddod i’r amlwg ac wrth i bobol ddechrau brechu eu plant.

“Y naill ffordd neu’r llall, bydd angen i sefydliadau gwleidyddol ac iechyd gydnabod a gweithio gyda rhieni, y mae llawer ohonynt yn teimlo bod y penderfyniad i frechu eu plant ai peidio ymhell o fod yn un syml.”

Yr astudiaeth yw adroddiad diweddaraf Barn y Cyhoedd am Bandemig Covid-19 Prifysgol Abertawe, ac roedd yr ymchwil yn cynnwys grwpiau ffocws a chyfweliadau â phobol o bob rhan o’r Deyrnas Unedig.