Mae dyddiad wedi ei osod ar gyfer achos llys tri o bobl yn dilyn marwolaeth Logan Mwangi,

Cafodd y bachgen pum mlwydd oed ei ddarganfod yn Afon Ogwr yn Sarn ger Penybont-ar-Ogwr wedi adroddiadau o blentyn âr goll.

Fe gafodd ei gludo i Ysbyty Tywysoges Cymru nos Sadwrn, Gorffennaf 31 lle cadarnhawyd ei fod wedi marw.

Bydd John Cole, llysdad Logan Mwangi, yn wynebu cyhuddiadau o lofruddiaeth a gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Bydd mam Logan, Angharad Williamson, hefyd yn ymddangos gerbron llys wedi ei chyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder, ynghyd â pherson ifanc dienw.

Ddalfa

Roedd Cole a’r person ifanc yn bresennol yn Llys Y Goron Casnewydd heddiw (dydd Gwener, Awst 6) ar gyfer y gwrandawiad tra bod Williamson yn ymddangos dros fideo.

Mae’r cyhuddiadau’n honni bod Cole wedi llofruddio Logan Mwangi rhwng 28 Gorffennaf ac 1 Awst, a bod y tri wedi gwyrdroi cwrs cyfiawnder yn yr un amser.

“Rydych chi’n cael eich cadw yn y ddalfa a byddwch chi’n ymddangos gerbron y llys etn ar gyfer gwrandawiadau ple ac i baratoi achos,” dywedodd y barnwr, Michael Fitton.

“O ran dyddiad yr achos, yr hyn rydyn ni’n bwriadu ei wneud yw rhestru’r achos ar gyfer Ionawr 31 y flwyddyn nesaf.”

Ni gafwyd unrhyw ble gan y tri fel  ymateb i’r cyhuddiadau yn eu herbyn.

Mae disgwyl i’r gwrandawiad ple a pharatoi achos fod ar 12 Tachwedd.