Mae’r rhan fwyaf o gyfyngiadau Covid yng Nghymru wedi dod i ben heddiw wrth inni symud i lefel rhybudd sero.

Bellach does dim cyfyngiadau ar gwrdd y tu mewn ac mae ymbellhau cymdeithasol, a fu mewn grym ers 17 mis, wedi dod i ben.

Ond bydd yn rhaid parhau i wisgo gorchuddion wyneb y tu mewn yn yrhan fwyaf o lefydd cyhoeddus – gan gynnwys ar drafnidiaeth gyhoeddus – ond fydd dim rhaid gwisgo mwgwd mewn tafarnau, bwytai nag ysgolion.

Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi rhybuddio nad yw’r cyfnod newydd hwn yn “ddiwedd ar y cyfyngiadau” gan ychwanegu “nad oes rhyddid i bawb wneud fel y mynnant”.

Gostwng

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gadarnhau y penderfyniad nos Iau wrth i nifer yr achosion ostwng.

Dywedodd Mr Drakeford ei fod yn hyderus bod Cymru “yng nghymal olaf” dod allan o’r pandemig.

Ond pe bai amrywiolyn newydd yn dod i’r amlwg, neu pe bai’r feirws yn datblygu mewn ffordd lle byddai brechu’n llai effeithiol, dywedodd y byddai’n rhaid “i ni wynebu canlyniadau hynny a gweithredu”.

Yn Lloegr, cafodd y rhan fwyaf o’r rheolau eu llacio ar 19 Gorffennaf – fis wedi’r bwriad gwreiddiol ac yn Yr Alban mae disgwyl i weddill cyfyngiadau’r wlad ddod i ben ar Awst 9.