“Byddwn i sicr ddim yn mynd yn agos at glwb nos,” meddai un person ifanc wrth Golwg360 wrth i’r cyfyngiadau Covid godi heddiw.

O heddiw ymlaen (Dydd Sadwrn, Awst 7) mae Cymru ar lefel rhybudd sero, sy’n golygu bod y rhan fwyaf o gyfyngiadau yn dod i ben.

Bellach fydd hawl gan glybiau nos i ailagor yng Nghymru am y tro cyntaf mewn 15 mis.

Ond yn ôl un athrawes ifanc o Aberystwyth, mae’n poeni am oblygiadau llacio ac ail-agor clybiau nos.

“Mae’r syniad o ystafell lawn o bobl ochr yn ochr â’i gilydd, pawb yn bwrw mewn i’w gilydd – mae’r peth yn neud fi’n bryderus,” meddai Catrin Lluest, 22.

“Dychmygwch fod un person gyda Covid yn yr ystafell honno, faint o niwed all hynny wneud.

Risg

“Dydy nifer o bobl ifanc sydd nawr yn 18 erioed wedi bod mewn clwb nos o’r blaen, ac fe fyddwn nhw’n heidio i’r clybiau i gael eu blas cyntaf ar fywyd nos.

“Mae yna risg y bydd yr holl bobl ifanc, a hŷn yn gwneud fel y mynnent ac mae hynny’n fy mhoeni.

“O brofiad personol fel athrawes mae’n gwneud synnwyr i beidio caniatáu mygydau mewn ysgolion. Ond bydd rheoli pobl feddw mewn clwb nos yn stori wahanol.

“Mae llacio nawr yng nghanol yr haf, pan mae cyfnod y ffliw ar y gorwel dros y gaeaf yn annoeth, a phwy a ŵyr beth fydd canlyniadau’r cyfnod hwn.”

Yn ôl arolwg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru dim ond 28% o bobl yng Nghymru sy’n dweud nad ydyn nhw “yn poeni o gwbl” am gynlluniau’r llywodraeth i godi’r mwyafrif o gyfyngiadau Covid-19 y penwythnos hwn.

Normal

Yn ôl Iago Evans, 18 o Sir Benfro mae’n teimlo’n gyfforddus gyda llacio rheolau ac yn gweld hi’n hen bryd i bethau ddychwelyd i normal.

“Fi wedi prynu fy nhocynnau i fynd i glwb nos yn barod ac yn edrych mlaen,” meddai wrth Golwg360.

“Mae’n hen bryd i lacio. Mae Lloegr wedi llacio ers rhai wythnosau bellach, felly beth yw’r pwynt ohonom ni [Cymru] yn llusgo traed?

“Mae lot o bobl wedi cael eu brechu, felly dewch i ni fynd nôl i normal nawr.

“Mae nifer o ffrindiau gyda fi wedi mynd i’r clybiau nos yn Lloegr dros yr wythnosau diwethaf ac yn dychwelyd nôl fan hyn, felly dydy Cymru’n gwneud penderfyniad hwyrach yn neud lot o wahaniaeth.”

Gwirfoddol

Fe fydd gwisgo gorchudd wyneb yn parhau’n ofynnol mewn mannau cyhoeddus ond ni fydd angen eu gwisgo mewn bwytai, tafarndai nac ysgolion.

Er ei fod yn hapus i weld y rheolau’n llacio mae’n bwriadu gwisgo mwgwd am y tro.

“Byddaf efallai yn gwisgo mwgwd – a hynny yn wirfoddol am rai wythnosau – ond cyn hir fyddai’n hapus iawn i beidio â gwisgo un,” meddai.

“Mae gyda ni un o’r rhaglenni gorau yn y byd, mae’n llwyddiannus a stopio Covid, ac os yw pawb wedi cael eu brechu dylwn ni nawr deimlo’n gyfforddus gyda mynd mas.”

Mae Mark Drakeford eisoes wedi cadarnhau y bydd gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus, siopau a’r mwyafrif o fannau cyhoeddus dan do yng Nghymru, ond ni fydd angen gwisgo masgiau mewn lleoliadau lletygarwch mwyach.

Mae hefyd yn dweud ni ddylai pobl Cymru trin heddiw fel “Diwrnod Rhyddid” gan alw ar bobl i ymddwyn yn synhwyrol.

Mark Drakeford yn wfftio sôn am “Ddiwrnod Rhyddid” i Gymru

Daw hyn wrth i’r rhan fwyaf o gyfyngiadau Covid-19 cael eu llacio yng Nghymru dros y penwythnos