Mae Osian Roberts wedi son am ei bleser wrth ymuno â Crystal Palace fel eu rheolwr cynorthwyol.

Cadarnhaodd yr Eagles yr apwyntiad ddydd Gwener ar ôl i asiantaeth newyddion PA a golwg360 ddatgelu y penwythnos diwethaf y byddai cyn-hyfforddwr Porthmadog a chwaraewr canolcae Bangor yn ymgymryd â’r rôl ym Mharc Selhurst.

Bydd Roberts yn cefnog rheolwr newydd Palace – Patrick Vieira – a gwblhaodd ei fathodynnau hyfforddi ar raglen hyfforddi Cymdeithas Bêl-droed Cymru dan oruchwyliaeth y Cymro a fagwyd ym mhentref Bodffordd, Ynys Môn.

Mae tri hyfforddwr arall – Kristian Wilson, Said Aigoun a Dean Kiely – eisoes wedi ymuno â’r Palace.

Croeso

Ar ôl ei benodi, dywedodd Roberts wrth wefan swyddogol y clwb: “Rwy’n falch iawn o ymuno â chlwb mawreddog o’r Uwch Gynghrair fel Crystal Palace ac i ddechrau gweithio ochr yn ochr â Patrick, fy nghyd-staff a grŵp cryf iawn o chwaraewyr.

“Mae hon yn her newydd i mi ac rwyf wedi cael croeso gwych yn barod. Rwy’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda phobl dalentog iawn y tymor hwn.”

Roberts oedd y cyfarwyddwr technegol gyda Moroco yn fwyaf diweddar ond ymddiswyddodd y mis diwethaf.

Mae cefnogwyr tîm cenedlaethol Cymru yn parchu Roberts yn arbennig am ei waith gyda Chymdeithas Pêl-droed Cymru cyn iddo fod yn gynorthwy-ydd i Chris Coleman yn ystod eu rhediad i rownd gynderfynol Ewro 2016.

Ar ôl i Coleman adael, gwnaeth Roberts gais am swydd y prif hyfforddwr ond cafodd Ryan Giggs ei ddewis a bydd nawr yn parhau â’i daith hyfforddi yn yr Uwch Gynghrair ym Mharc Selhurst gan gefnogi Vieira.

Patrick Vieira am benodi Osian Roberts fel ei gynorthwy-ydd yn Crystal Palace

Y Ffrancwr yn rhoi ei ffydd yn y Cymro fu’n ei gynorthwyo i ennill ei fathodynnau hyfforddi