Bydd cyn-reolwr cynorthwyol Cymru Osian Roberts yn cael ei benodi’n rhif dau Patrick Vieira yng nghlwb Crystal Palace.

Dyna a ddeallir gan asiantaeth newyddion PA – yn dilyn sibrydion cryf yn ddiweddar.

Cyhoeddodd y Cymro sy’n ededigol o Ynys Môn yn gynharach y mis hwn ei fod wedi ymddiswyddo o’i rôl fel cyfarwyddwr technegol ym Moroco ar ôl dwy flynedd wrth y llyw.

Roedd Roberts wedi bod yn goruchwylio’r rhaglen hyfforddi yng Nghanolfan Cymdeithas Bêl-droed Cymru, lle y cwblhaodd Vieira ei fathodynnau hyfforddi, ond bydd yn nawr yn parhau â’i yrfa yn y byd pêl-droed fel hyfforddwr yn yr Uwch Gynghrair.

Ar ôl gwneud amrywiol swyddi o fewn y corff llywodraethu, cafodd Roberts ei wneud yn gynorthwy-ydd i reolwr y tîm cenedlaethol Chris Coleman yn 2015 a chwaraeodd ran allweddol gyda llwyddiant Cymru yn cyrraedd y rownd gynderfynol yn nghystadleuaeth Ewro 2016.

Technegol

Pan ymadawodd Coleman flwyddyn yn ddiweddarach, arhosodd Roberts yn ei swydd ond gwelodd ei obeithion o ennill y brif swydd wedi’i chwalu gyda phenodiad Ryan Giggs.

Yn ddiweddarach daeth yn gyfarwyddwr technegol tîm cenedlaethol Moroco ym mis Awst 2019 cyn iddo gadarnhau ei ymadawiad o’r rôl ddydd Mawrth.

Dywedodd Roberts ar Twitter: “Gallaf gadarnhau fy mod wedi ymddiswyddo o dîm pêl-droed cenedlaethol Moroco.

“Rwyf wedi cael dwy flynedd wych yn gweithio mewn gwlad wirioneddol brydferth gyda phobl hynod ac angerddol ac rwy’n siŵr y bydd Moroco yn parhau i dyfu a symud ymlaen yn y byd pêl-droed dros y blynyddoedd nesaf.

‘Calonnau’

“Hoffwn ddiolch i chi i gyd am agor eich calonnau i mi a bydd rhan ohonof bob amser yn Forocan.”

Mae Vieira eisoes wedi dod â Kristian Wilson, y bu’n gweithio gyda fo yn Efrog Newydd a Nice, fel hyfforddwr tîm cyntaf, tra ymunodd Said Aigoun â Phalas o Paris St Germain fel hyfforddwr datblygu.

Gyda Dean Kiely eisoes ar waith fel hyfforddwr y gôlgeidwaid ym Mharc Selhurst, bydd ychwanegu Roberts yn cwblhau tîm hyfforddi’r Eagles.

Bu rheolwr tîm dan 23 Shaun Derry a’r pennaeth tîm ieuenctid Paddy McCarthy yn cefnogi Vieira yn ystod ei wythnosau cyntaf yn y clwb.#