Bydd y Llewod yn disgwyl gwrthwynebwyr ffyrnig yn yr ail brawf yn erbyn De Affrica y prynhawn yma.

Bydd y gêm yn cael ei chynnal yn Stadiwm Cape Town am 5 o’r gloch amser Cymru gyda’r ymwelwyr yn gobeithio sicrhau’r gyfres,

Yn dilyn eu buddugoliaeth o 17-22 yn y prawf cyntaf, capten Cymru Alun Wyn Jones fydd yn arwain y tîm unwaith eto, gan ennill ei 11eg cap i’r Llewod.

Byddai buddugoliaeth arall felly yn selio’r gyfres i dîm Prydain ac Iwerddon – y gyntaf ers 1997.

Fe wnaeth prif hyfforddwr Rassie Erasmus y Springboks roi fideo awr o hyd ar-lein yn beirniadu penderfyniadau’r dyfarnwr Nic Berry o Awstralia yn y prawf cyntaf, tra bo’r capten Siya Kolisi wedi dweud ei fod wedi teimlo “diffyg parch” ganddo.

Dyfarnu

Mae’r Llewod wedi gwrthod yr honiadau nad oedd y dyfarnu’n deg.

Dywedodd hyfforddwr blaenwyr y Llewod, Robin McBryde eu bod yn disgwyl brwydr glos, gorfforol arall ac ymateb ffyrnig gan y Springboks.

Mae’r rheolwr Warren Gatland wedi gwneud tri newid i dîm Y Llewod, gyda dau Gymro’n dechrau a dau arall ar y fainc.

Bydd y mewnwr Conor Murray, y canolwr Chris Harris a’r prop Mako Vunipola yn dod i mewn i’r 15 sy’n dechrau yn lle Ali Price, Elliot Daly a Rory Sutherland.

Anaf

Mae Dan Biggar yn cadw ei le fel maswr, er iddo orfod gadael y maes gydag anaf i’w ben y Sadwrn diwethaf.

Nid yw prop Cymru a’r Scarlets, Wyn Jones, wedi dod dros yr anaf i’w ysgwydd a orfododd iddo fethu’r prawf cyntaf.

Mae wythwr Cymru, Taulupe Faletau, ymysg yr eilyddion gyda’r bachwr Ken Owens, ond mae’r cefnwr Liam Williams wedi colli ei le ar y fainc.

Dyma’r tîm: Stuart Hogg; Anthony Watson, Chris Harris, Robbie Henshaw, Duhan van der Merwe; Dan Biggar, Conor Murray; Jack Conan, Tom Curry, Courtney Lawes, Alun Wyn Jones, Maro Itoje, Tadhg Furlong, Luke Cowan-Dickie, Mako Vunipola.

Eilyddion: Ken Owens, Rory Sutherland, Kyle Sinckler, Tadhg Beirne, Taulupe Faletau, Ali Price, Owen Farrell, Elliot Daly.