Mae Warren Gatland, prif hyfforddwr tîm rygbi’r Llewod, wedi dweud wrth y garfan i baratoi am “ffeinal cwpan” ar drothwy’r trydydd prawf tyngedfennol yn erbyn De Affrica yr wythnos nesaf.
Collon nhw’r ail brawf o 27-9 ddoe (dydd Sadwrn, Gorffennaf 31) wrth i Dde Affrica unioni’r gyfres, 1-1 yn Cape Town.
Roedd y Llewod ar y blaen o 9-6 ar yr egwyl ar ôl i’r Cymro Dan Biggar gicio tair cic gosb, ond roedd y tîm cartre’n rhy gryf yn yr ail hanner.
Sgoriodd Makazole Mapimpi a Lukhanyo Am geisiau wrth i Handre Pollard gicio’n gywir.
“Mae’r chwaraewyr yn siomedig iawn ond mae dydd Sadwrn nesaf yn ffeinal cwpan,” meddai Gatland.
“Dyna sut mae’n rhaid i ni edrych arni a pharatoi.
“Mae yna ambell beth gyda ni i’w tacluso.
“Mae’n 1-1 ac fe wnaeth De Affrica roi cryn dipyn o emosiwn yn y gêm honno.
“Mae gyda ni’r cyfle hwnnw yr wythnos nesaf, gobeithio, i gipio’r gyfres.
“Roedden ni’n hapus hanner amser ac yn yr ail hanner, wnaethon ni jyst ddim mynd i mewn iddi.
“Doedd dim momentwm gyda ni, dim cyfle gwirioneddol i chwarae.
“Dim byd o gwbwl o’n cicio ac roedd hynny’n destun siom.”