Mae Ben Cabango, y Cymro Cymraeg yng nghanol amddiffyn tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud ei fod e’n barod ar gyfer y tymor newydd ar ôl cael seibiant ychwanegol yn dilyn ymgyrch Cymru yn Ewro 2020.

Chwaraeodd e’r gêm gyfan yn erbyn Southampton ddoe (dydd Sadwrn, Gorffennaf 31), wrth i’r Elyrch golli o 3-1 wrth barhau i baratoi ar gyfer tymor arall yn y Bencampwriaeth.

Ond gyda llai nag wythnos cyn dechrau tymor y gynghrair, mae’r Elyrch yn dal heb reolwr parhaol yn dilyn ymadawiad Steve Cooper, gydag Alan Tate wrth y llyw dros dro.

Y disgwyl yw mai Russell Martin, rheolwr MK Dons, fydd yn cael ei benodi i’r swydd a’r gobaith yw y daw’r penodiad cyn y gêm gynghrair gyntaf yn erbyn Blackburn ymhen wythnos.

“Roedd hi’n wych cael bod yn ôl yma yn y Liberty ac yn chwarae o flaen y cefnogwyr hyn, rydyn ni wir wedi gweld eu heisiau nhw,” meddai Cabango.

“Roedd yn beth mawr i fi gael fy 90 munud cyntaf, ro’n i’n chwythu tipyn bach yn y 25 munud olaf ond roedd yn brawf da i ni yn erbyn tîm da.

“Ro’n i’n meddwl ein bod ni wedi cadw’r bêl yn dda yn yr hanner cyntf, rydyn ni wedi dysgu tipyn o hynny a’r dasg nawr yw mynd â hynny i mewn i’r gynghrair yr wythnos nesaf, a cheisio dechrau’n dda.”

Dysgu o’r Ewros

Yn ôl Ben Cabango, mae e wedi dysgu tipyn hefyd o’r profiad o gael mynd i’r Ewros gyda Chymru.

Cyrhaeddodd tîm Rob Page rownd yr 16 olaf cyn colli yn erbyn Denmarc.

“Roedd yn brofiad gwych i gael bod yn rhan o hynny ac fe wnes i ddysgu tipyn,” meddai.

“Dw i jyst eisiau mwy a gobeithio y gallwn ni wthio tuag at Gwpan y Byd nawr.”