Russell Martin yw rheolwr newydd Clwb Pêl-droed Abertawe.

Mae’r Albanwr 35 oed wedi llofnodi cytundeb tair blynedd ar ôl symud o MK Dons i olynu’r Cymro Steve Cooper.

Bydd Luke Williams, Matt Gill a Dean Thornton yn ymuno â’r tîm hyfforddi, tra bydd Alan Tate yn aros gyda’r clwb fel hyfforddwr y tîm cyntaf hefyd.

Byddan nhw wrth y llyw ar gyfer sesiwn hyfforddi yn Fairwood yfory (dydd Llun, Awst 2), gyda gêm gynta’r tymor yn erbyn Blackburnn ddydd Sadwrn (Awst 7).

Gyrfa

Yn gyn-amddiffynnwr, cafodd Russell Martin yrfa fel chwaraewr a barodd 15 mlynedd, gan ddechrau yn nhîm ieuenctid Brighton ac fe aeth yn ei flaen i ennill 29 o gapiau dros yr Alban.

Ar ôl cyfnodau gyda Wycombe Wanderers ac ennill dyrchafiad i’r Bencampwriaeth yn gapten ar Peterborough, ymunodd e â Norwich ar fenthyg.

Ymunodd e’n barhaol yn 2010 wrth i Norwich ennill yr Adran Gyntaf.

Treuliodd e wyth mlynedd yno wedyn, gan ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair yn 2011 a 2015 ac fe chwaraeodd e ochr yn ochr â Ryan Bennett, Kyle Naughton a Korey Smith.

Ar ôl cyfnod ar fenthyg yn Rangers yn yr Alban, gadawodd e Norwich yn 2018 gan ymuno â Walsall yn chwaraewr-hyfforddwr.

Ymunodd e ag MK Dons y flwyddyn ganlynol, a’u helpu nhw i ennill dyrchafiad i’r Adran Gyntaf.

Ar ôl i Paul Tisdale adael ym mis Tachwedd 2019, cafodd ei benodi’n rheolwr gan ymddeol o fod yn chwaraewr.

Fe wnaeth e achub MK Dons y tymor hwnnw gan orffen yn 13eg y tymor diwethaf – dim ond Manchester City a Barcelona gafodd fwy o feddiant na nhw yn Ewrop yn ystod y tymor.

Ymateb

“Rydyn ni wrth ein boddau â phenodiad Russell yn brif hyfforddwr,” meddai’r prif weithredwr Julian Winter.

“Mae e’n sicr yn ffitio proffil hyfforddwr ifanc ac awchus sydd eisiau llwyddo, ac mae e’n barod iawn am y cyfle.

“Pan ddaeth hi’n glir y bydden ni’n chwilio am brif hyfforddwr newydd, ym mlaenau ein meddyliau roedd dod o hyd i ymgeisydd oedd yn uchelgeisiol a chanddo weledigaeth glir o sut mae e eisiau i’r tîm chwarae.

“Ar ôl cael canmoliaeth gyda Milton Keynes Dons am y steil ddeniadol, ymosodol wnaeth e ei chyflwyno, sylweddolon ni’n gyflym mai Russell fyddai’r person cywir i fynd â ni yn ein blaenau.

“Roedden ni hefyd yn chwilio am rywun ag angerdd dros weithio gyda chwaraewyr ifainc a’u datblygu. Mae Russell yn ticio’r holl flychau hynny.

“Tra bod ei athroniaeth hyfforddi’n glir, fe wnaeth Russell fwynhau gyrfa dda yn chwarae wrth wneud dros 500 o ymddangosiadau hŷn.

“Roedd e’n gapten ar Peterborough a Norwich, yn ogystal ag ennill dyrchafiad ar bum achlysur gwahanol, sy’n dweud popeth wrthoch chi am ei rinweddau fel arweinydd a’i feddylfryd o ennill.”