Mae Russell Martin, rheolwr newydd Abertawe, yn dweud ei fod e wedi “cyffroi” o gael y cyfle i ddychwelyd i ddull traddodiadol yr Elyrch o chwarae pêl-droed.
Daeth cadarnhad neithiwr (nos Sul, Awst 1) mai’r Albanwyr sydd wedi’i benodi i olynu’r Cymro Steve Cooper, a’i fod e wedi llofnodi cytundeb tair blynedd sy’n rhoi digon o amser iddo osod ei stamp ei hun ar y garfan a’r tactegau.
Daw ei benodiad lai nag wythnos cyn gêm gynghrair gynta’r tymor oddi cartref yn Blackburn.
Un o’r prif gwynion yn ystod cyfnod Cooper wrth y llyw oedd nad oedd y bêl-droed yn ddigon deniadol – a hynny ar ôl blynyddoedd yn Uwch Gynghrair Lloegr o gael eu cymharu â Barcelona.
Bydd y dull yn ddibynnol ar gadw’r meddiant, ac mae gan Russell Martin hanes o lwyddo ar yr agwedd honno, wrth i’r MK Dons orffen yn drydydd ledled Ewrop o ran meddiant y tymor diwethaf – y tu ôl i Barcelona a Manchester City.
Fe wnaethon nhw dorri record Brydeinig hefyd wrth gwblhau 56 pàs cyn sgorio.
Ac o ran Abertawe, mae Martin eisoes wedi siarad â’r cyn-reolwr Graham Potter, ac wedi cael y profiad dros y blynyddoedd o chwarae yn erbyn timau Brendan Rodgers a Michael Laudrup.
‘Balch ac wedi cyffroi’
“Dw i’n eithriadol o falch ac wedi cyffroi, a bod yn onest,” meddai’r rheolwr newydd ar ôl glanio yn Stadiwm Liberty, lle bydd e’n ymuno unwaith eto â Ryan Bennett, Kyle Naughton a Korey Smith – triawd oedd gyda fe yn Norwich.
“Mae popeth dw i wedi’i glywed am y clwb – gan y perchnogion, y bobol yma sy’n gweithio yn y clwb a’r bobol sydd wedi bod yma o’r blaen dw i’n eu nabod – yn tanlinellu pa mor arbennig yw e.
“Dw i’n nabod y cefnogwyr a beth maen nhw’n ei ddisgwyl yn nhermau’r Ffordd Abertawe gyfoes, fe ddechreuodd hynny o dan Roberto Martinez ac fe wnaeth e barhau o dan Brendan Rodgers a Michael Laudrup a phobol felly.
“Dw i’n gyfarwydd â hynny, ac fe wnes i chwarae yn erbyn y rhan fwyaf o’r timau hynny dros y blynyddoedd ac rydyn ni, fel tîm hyfforddi, wedi ein halinio’n fawr iawn gyda hynny.
“Mae’n fy nghyffroi.
“Rydyn ni wir yn credu yn hynny, a gobeithio y bydd yna gysylltiad ar unwaith ac yn rhywbeth y byddwn ni’n gallu ei fwynhau.
“Mae tipyn o waith i’w wneud, ond dw i wedi cyffroi’n fawr iawn.
“Dw i’n edrych ymlaen at roi tîm i’r cefnowyr y byddan nhw wir yn gallu cysylltu â nhw, sy’n gryf o ran Ffordd Abertawe, oherwydd does dim amheuaeth fod y cefnogwyr a’r clwb wedi’u cysylltu â ffordd benodol o wneud pethau.
“Dw i’n edrych ymlaen at roi tîm iddyn nhw sy’n eu cyffroi nhw ac sydd yn destun mwynhad iddyn nhw.
“Dw i eisiau gwylio ein tîm o ochr y cae a’i fwynhau e, fel arall beth yw’r pwynt?
“Dw i ddim eisiau bod yn rhan o unrhyw beth dw i ddim yn ei fwynhau, ac mae hynny’n cynnwys gwylio ein tîm ein hunain.
“Dw i eisiau rhoi tîm i’r cefnogwyr y gallan nhw fod yn falch ohono ac uniaethu â fe, tîm sy’n edrych yr un fath bobman awn ni, boed yn Stadiwm Liberty neu oddi cartref.
“Bydd yn dîm sy’n rhoi popeth sydd ganddyn nhw.”