Mae un o redwyr Belarws yn dweud bod ei thîm Olympaidd wedi ceisio ei gorfodi hi i adael Japan yn erbyn ei hewyllys.

Arweiniodd y ddadl at anghytundeb ym mhrif faes awyr Tokyo neithiwr (nos Sul, Awst 1), gyda Krystsina Tsimanouskaya yn gwrthod gadael y wlad.

Mae ymgyrchwyr sy’n ei chefnogi’n dweud ei bod hi’n credu bod ei bywyd mewn perygl yn ei mamwlad, ac y bydd hi’n ceisio cael lloches gyda llysgenhadaeth Awstria yn Tokyo.

Mewn fideo a gafodd ei rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol, dywed Krystsina Tsimanouskaya fod pwysau arni gan swyddogion tîm Belarws i adael, ac mae hi’n gofyn i Bwyllgor Rhyngwladol y Gemau Olympaidd am help.

“Cefais fy rhoi dan bwysau ac maen nhw’n trio fy ngorfodi i o’r wlad heb fy nghaniatâd,” meddai’r rhedwr 24 oed.

Fe wnaeth Krystsina Tsimanouskaya, sydd i fod i redeg yn rhagbrofion y ras 200m, feirniadu swyddogion y tîm ar ei chyfrif Instagram, gan ddweud ei bod hi wedi’i dewis i gystadlu yn y ras gyfnewid 4x400m er nad yw hi erioed wedi rhedeg yn y ras o’r blaen.

‘Bywyd mewn perygl’

Dywedodd y Belarusian Sport Solidarity Foundation (BSSF) fod cefnogwyr y llywodraeth wedi ei thargedu, a bod Krystsina Tsimanouskaya wedi cysylltu â nhw am gymorth er mwyn osgoi’r hyn roedd hi’n ei ofni, fel cael ei halltudio i Minsk.

“Roedd yr ymgyrch yn un eithaf difrifol ac roedd hynny’n arwydd clir y byddai ei bywyd mewn perygl ym Melarws,” meddai Alexander Opeikin, llefarydd ar ran y BSSF wrth The Associated Press.

Fe wnaeth Krystsina Tsimanouskaya alw’r heddlu ym maes awyr Haneda neithiwr, ac aeth hi ddim ar yr awyren i Istanbul.

Cyrhaeddodd swyddogion o’r Swyddfa Dramor wedyn, a thrwy ddatganiad gan y BSSF, dywedodd Krystsina Tsimanouskaya ei bod hi yn swyddfa’r heddlu yn gynnar fore heddiw (dydd Llun, Awst 2).

Dywedodd Pwyllgor Rhyngwladol y Gemau Olympaidd, a fu’n dadlau gyda Phwyllgor Olympaidd Cenedlaethol Belarws cyn y Gemau, eu bod nhw wedi ymyrryd.

Yn ôl llefarydd ar ran llywodraeth Japan, maen nhw’n cydweithio â mudiadau eraill “er mwyn cymryd mesurau addas”, ac maen nhw wedi cadarnhau bod Krystsina Tsimanouskaya yn ddiogel.

Fe wnaeth Krystsina Tsimanouskaya gystadlu yn y Gemau Olympaidd ddydd Gwener (Gorffennaf 30), a daeth hi’n bedwerydd yn ei rhagbrawf ar gyfer y ras 100m gan orffen mewn 11.47 eiliad.

Doedd hynny ddim yn ddigon iddi fynd drwodd i’r rownd nesaf.