Mae’r Cymro James Harris yn dychwelyd i Glwb Criced Morgannwg yn barhaol ar ôl llofnodi cytundeb tair blynedd.
Bydd y chwaraewr amryddawn 31 oed yn aros gyda Middlesex tan ddiwedd y tymor cyn dod adref i Gymru y tymor nesaf.
Bydd y cytundeb yn ei gadw gyda’r sir tan o leiaf 2024, ac mae’n golygu bod y bowliwr cyflym o Bontarddulais yn dychwelyd i’r sir lle dechreuodd ei yrfa broffesiynol yn 16 oed yn 2007.
Fe oedd y bowliwr ieuengaf erioed i gipio deg wiced mewn gêm Bencampwriaeth ar ôl cipio 12 am 118 yn erbyn Swydd Gaerloyw ym Mryste ar ôl cael ei ben-blwydd yn 17 oed.
Gadawodd e’r sir yn 2012 i ymuno â Middlesex yn y gobaith o chwarae dros Loegr, ond dychwelodd e ar fenthyg i Forgannwg yn 2014 ac yn gynharach y tymor hwn.
Mewn 153 o gemau dosbarth cyntaf, mae e wedi cipio 508 o wicedi ar gyfartaledd o 28.71 ac wedi sgorio bron i 4,000 o rediadau dosbarth cyntaf ar gyfartaledd o 23, gan daro 18 hanner canred.
Mae e hefyd wedi chwarae mewn 67 o gemau undydd Rhestr A, gan gipio 91 o wicd ar gyfartaledd ychydig yn fwy na 30, ac mae e hefyd wedi chwarae mewn 58 o gemau ugain pelawd.
‘Wrth fy modd’
“Dw i wrth fy modd yn llwyr o gael ymuno eto â Morgannwg a dychwelyd i Gymru,” meddai James Harris.
“Hoffwn ddiolch i chwaraewyr a staff Middlesex, yn ogystal â’r cefnogwyr gwych yn Lord’s am eu holl garedigrwydd a’u cefnogaeth dros y naw mlynedd diwethaf, ond pan ddaeth y cyfle i symud adref eto, roedd yn un nad oeddwn ni’n gallu ei wrthod.
“Ro’n i bob amser yn gweld fy hun yn dychwelyd ryw ddiwrnod i Forgannwg, a dyma’r amser perffaith i fi wneud hynny, a dw i wedi cyffroi ar gyfer y bennod nesaf yn fy ngyrfa griced.
“Dw i’n dal i gredu bod gen i lawer i’w gynnig ar y cae, a dw i eisiau defnyddio fy mhrofiad i helpu’r chwaraewyr iau a’n helpu ni i wthio am dlysau.”
‘Caffaeliad gwych’
“O’r eiliad adawodd James, rydyn ni wedi bod eisiau ei ailarwyddo fe,” meddai Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg.
“Mae e’n gaffaeliad gwych i’r clwb.
“Mae e’n fowliwr sêm o’r radd flaenaf, yn fatiwr cryf ychydig yn is na chanol y rhestr ac yn llais gwych yn yr ystafell newid o ystyried ei brofiad arweinyddol.
“Ers torri trwodd yn 16 oed, mae e wedi bod yn ffefryn ymhlith y cefnogwyr ym Morgannwg, a bydd dod â fe adre’ yn rhoi gwên ar lawer iawn o wynebau.”