Mae athletwraig sydd wedi bod yn cynrychioli Belarws yng Ngemau Olympaidd Tokyo wedi cael lloches yn llysgenhadaeth Gwlad Pwyl.
Daw hyn ar ôl i Krystsina Tsimanouskaya fynegi pryder ei bod hi’n teimlo dan fygythiad ar ôl cael ei gorfodi i adael Japan yn erbyn ei hewyllys.
Arweiniodd y ddadl at anghytundeb ym mhrif faes awyr Tokyo neithiwr (nos Sul, Awst 1), gyda Krystsina Tsimanouskaya yn gwrthod gadael y wlad.
Mae ymgyrchwyr sy’n ei chefnogi’n dweud ei bod hi’n credu bod ei bywyd mewn perygl yn ei mamwlad, a’i bod hi wedi bwriadu ceisio cael lloches gyda llysgenhadaeth Awstria yn Tokyo.
Mae hi bellach wedi tynnu’n ôl o’r Gemau Olympaidd ar sail cyngor meddygol.
Mewn fideo a gafodd ei rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Krystsina Tsimanouskaya fod pwysau arni gan swyddogion tîm Belarws i adael, ac roedd hi’n gofyn i Bwyllgor Rhyngwladol y Gemau Olympaidd am help.
“Cefais fy rhoi dan bwysau ac maen nhw’n trio fy ngorfodi i o’r wlad heb fy nghaniatâd,” meddai’r rhedwr 24 oed.
Fe wnaeth Krystsina Tsimanouskaya, sydd i fod i redeg yn rhagbrofion y ras 200m, feirniadu swyddogion y tîm ar ei chyfrif Instagram, gan ddweud ei bod hi wedi’i dewis i gystadlu yn y ras gyfnewid 4x400m er nad yw hi erioed wedi rhedeg yn y ras o’r blaen.
‘Bywyd mewn perygl’
Dywedodd y Belarusian Sport Solidarity Foundation (BSSF) fod cefnogwyr y llywodraeth wedi ei thargedu, a bod Krystsina Tsimanouskaya wedi cysylltu â nhw am gymorth er mwyn osgoi’r hyn roedd hi’n ei ofni, fel cael ei halltudio i Minsk.
“Roedd yr ymgyrch yn un eithaf difrifol ac roedd hynny’n arwydd clir y byddai ei bywyd mewn perygl ym Melarws,” meddai Alexander Opeikin, llefarydd ar ran y BSSF wrth The Associated Press.
Fe wnaeth Krystsina Tsimanouskaya alw’r heddlu ym maes awyr Haneda neithiwr, ac aeth hi ddim ar yr awyren i Istanbul.
Cyrhaeddodd swyddogion o’r Swyddfa Dramor wedyn, a thrwy ddatganiad gan y BSSF, dywedodd Krystsina Tsimanouskaya ei bod hi yn swyddfa’r heddlu yn gynnar fore heddiw (dydd Llun, Awst 2).
Dywedodd Pwyllgor Rhyngwladol y Gemau Olympaidd, a fu’n dadlau gyda Phwyllgor Olympaidd Cenedlaethol Belarws cyn y Gemau, eu bod nhw wedi ymyrryd.
Yn ôl llefarydd ar ran llywodraeth Japan, maen nhw’n cydweithio â mudiadau eraill “er mwyn cymryd mesurau addas”, ac maen nhw wedi cadarnhau bod Krystsina Tsimanouskaya yn ddiogel.
Fe wnaeth Krystsina Tsimanouskaya gystadlu yn y Gemau Olympaidd ddydd Gwener (Gorffennaf 30), a daeth hi’n bedwerydd yn ei rhagbrawf ar gyfer y ras 100m gan orffen mewn 11.47 eiliad.
Doedd hynny ddim yn ddigon iddi fynd drwodd i’r rownd nesaf.