Mae Warren Gatland, Prif Hyfforddwr y Llewod Prydeinig a Gwyddelig, wedi gwneud chwech newid ar gyfer y trydydd prawf yn erbyn De Affrica ddydd Sadwrn (7 Awst).

Y prawf hwn fydd yn penderfynu pwy sy’n ennill y gyfres, gyda’r Llewod a De Affrica wedi ennill un gêm yr un hyd yma.

Mae yno sawl Cymro yn dod i mewn i’r tîm cyntaf, gan gynnwys y bachwr Ken Owens, y prop Wyn Jones, yr asgellwr Josh Adams a’r cefnwr Liam Williams.

Byddan nhw’n ymuno â Alun Wyn Jones, sy’n parhau yn gapten ar y tîm, a Dan Biggar sy’n cadw ei le fel maswr.

Hefyd yn dod i mewn i’r tîm mae’r mewnwr Ali Price, a’r canolwr Bundee Aki.

Mae’r maswr Finn Russell, y clo Adam Beard a’r wythwr Sam Simmonds yn dod i mewn i’r garfan o 23 am y tro cyntaf yn y gyfres, tra bod Taulupe Faletau, Owen Farrell, Anthony Watson a Stuart Hogg yn disgyn allan.

Ar ôl ennill y Prawf cyntaf 22-17, cafodd y Llewod eu trechu 27-9 yn yr ail Brawf i sicrhau diweddglo cyffrous i’r gyfres.

Bydd cic gyntaf y trydydd prawf am 5 o’r gloch ddydd Sadwrn (7 Awst).

“Cyfle arbennig”

“Mae gan y 23 sydd yn y garfan gyfle arbennig o’u blaenau – i sicrhau buddugoliaeth cyfres i’r Llewod yn Ne Affrica,” meddai Warren Gatland.

“Does gennym ni ddim esgusodion o’r wythnos ddiwethaf – fe wnaeth y Springboks ein rhoi ni dan bwysau yn yr ail hanner ac roedden nhw’n haeddu’r fuddugoliaeth.

“Mae’n rhaid i ni fod yn llawer gwell na’r perfformiad ail hanner hwnnw, a dw i’n credu y byddwn ni.”

Y tîm

Liam Williams; Josh Adams, Robbie Henshaw, Bundee Aki, Duhan Van der Merwe; Dan Biggar, Ali Price; Wyn Jones, Ken Owens, Tadhg Furlong, Maro Itoje, Alun Wyn Jones (c), Courtney Lawes, Tom Curry, Jack Conan

Eilyddion

Luke Cowan-Dickie, Mako Vunipola, Kyle Sinckler, Adam Beard, Sam Simmonds, Conor Murray, Finn Russell, Elliot Daly.