Mae’r seiclwr o Gymru Elinor Barker, 26 oed, wedi ennill medal arian yn y Gemau Olympaidd yn Tokyo.
Er na chafodd y ferch o Gaerdydd ei dewis yn un o’r pedwar wnaeth gystadlu yn y rownd derfynol yn erbyn Yr Almaen, mae hi’n derbyn medal oherwydd ei bod wedi seiclo yn un o’r rowndiau blaenorol.
Roedd Team GB yn gobeithio ennill y fedal aur am yr ail Gemau Olympaidd yn olynol, ar ôl dod yn gyntaf yng Ngemau Olympaidd Rio yn 2016.
Roedd hi’n gystadleuaeth anhygoel rhwng Team GB a’r Almaen, gyda record y byd yn cael ei thorri sawl gwaith.
Roedd y ddau dîm wedi torri record y byd yn y rownd gyntaf, Prydain yn gosod amser o 4:06.748 cyn i’r Almaen ymateb gyda 4:06.166.
Ond fe wnaeth yr Almaen ddominyddu’r rownd derfynol drwy osod amser o 4:04.249, ac ennill o fwy na chwe eiliad i sicrhau’r fedal aur.
Dywedodd Neah Evans, gymrodd le Elinor Barker yn y rownd derfynol: “Mae’n arbennig iawn.
“Yn amlwg, ni oedd y pencampwyr y tro diwethaf ac mae disgwyliadau enfawr oherwydd bod gennym enw da fel tîm, ond mae yna gymaint o wledydd cryf yn cystadlu.
“Fe wnaethon ni ymladd ond doedd o ddim i fod y tro hwn.”