Mae’r ymosodwr Michael Wilde wedi gadael Clwb Pêl-droed Cei Connah wedi i’w gytundeb ddod i ben.

Sgoriodd y gŵr 37 oed 18 o goliau y tymor diwethaf wrth i’r Nomads ennill tlws y Cymru Premier am yr ail dymor yn olynol, a chafodd ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn y Gynghrair.

Ymunodd â Chei Connah o’r Seintiau Newydd yn 2016, ac mae e wedi chwarae 154 o weithiau i’r clwb, gan sgorio 73 o goliau.

Sgoriodd ei 200fed gôl yn y gynghrair y tymor diwethaf.

Yn ystod ei gyfnod yn y clwb, enillodd Wilde deitl JD Premier ddwywaith, un Cwpan JD Cymru ac un Cwpan Nathaniel MG.

“Hoffai pawb yn y clwb ddiolch i Wildey am ei amser a’i gyfraniad yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy dros gyfnod mwyaf llwyddiannus y clwb yn ein hanes,” meddai’r clwb mewn datganiad.