Mae tîm criced Morgannwg wedi ennill eu trydedd gêm yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London, gyda buddugoliaeth swmpus o bum wiced dros Surrey yng Nghaerdydd.

Sgoriodd yr ymwelwyr 132 mewn 44.1 pelawd, gyda chyfraniad tila Rikki Clarke (35) yn sicrhau sgôr parchus.

Tarodd Hamish Rutherford o Seland Newydd 58 oddi ar 52 o belenni wrth i Forgannwg gyrraedd y nod yn hawdd wrth i Surrey golli am y tro cyntaf yn y gystadleuaeth.

Chwalu batwyr Surrey

Galwodd Surrey yn gywir a phenderfynu batio, ond fe gawson nhw ddechreuad trychinebus wrth i Mark Stoneman gael ei ddal yn y slip gan Nick Selman oddi ar belen gyntaf Michael Hogan.

Daeth cyfle yn fuan wedyn i’r capten Kiran Carlson waredu Hashim Amla gyda daliad yn syth ar ochr y goes oddi ar fowlio Lukas Carey ond doedd e ddim yn gallu dal ei afael ar y bêl.

Ond cipiodd Carey wiced wrth i Ryan Patel gael ei ddal gan Selman yn y slip, cyn i Amla gael ei ddal gan y wicedwr Tom Cullen am bedwar.

Cafodd Jamie Smith ei ddal wedyn gan Cullen oddi ar fowlio Joe Cooke i adael Surrey yn 35 am bedair.

Gwaethygodd sefyllfa’r ymwelwyr pan gafodd Nico Reifer ei ddal wrth ergydio’r troellwr Andrew Salter yn wyllt at Hamish Rutherford, gyda’r bowliwr hefyd yn gwaredu Tim David i roi daliad arall i Selman.

Roedd Surrey yn 63 am chwech erbyn hynny, wrth i Salter gipio’i ffigurau gorau erioed, tair am 37.

Cipiodd Andy Gorvin ei wiced gyntaf i Forgannwg wrth waredu Rikki Clarke, y chwaraewr amryddawn sy’n ymddeol ar ddiwedd y tymor.

Cipiodd Lukas Carey ddwy wiced am 28, gyda Hogan hefyd yn cipio un am 18 mewn deg pelawd.

Morgannwg yn cwrso

Dechreuodd Morgannwg gwrso’n gadarn cyn i Nick Selman gael ei fowlio gan Matt Dunn am chwech.

Batiodd Rutherford yn bwyllog wrth i Forgannwg gyrraedd 52 am un ar ôl deg pelawd.

Cyrhaeddodd ei hanner canred oddi ar 45 o belenni ar ôl taro deg pedwar, ac fe wnaeth e a Steven Reingold (40) fatio’n gadarn i reoli’r gêm.

Cyrhaedodd Morgannwg 100 gydag ergyd am chwech gan Rutherford oddi ar fowlio’r troellwr llaw chwith Dan Moriarty, ond fe gafodd ei ddal oddi ar y belen ganlynol gan Stoneman i ddod â batiad arwrol i ben.

Cipiodd Jamie Smith ddaliadau i waredu Reingold a Carlson cyn i Billy Root gael ei ddal un rhediad yn brin o’r nod.

Ond ddaeth y gêm i ben 23.1 pelawd cyn y diwedd wrth i Forgannwg sicrhau buddugoliaeth gyfforddus.