Mae Phil Parkinson, rheolwr tîm pêl-droed Wrecsam, wedi profi’n bositif am Covid-19.

Fis ar ôl cael ei benodi, doedd e ddim ar gael ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Fleetwood dan 23 heddiw (dydd Mawrth, Awst 3), wrth i’w dîm ennill o 4-0.

Ei is-reolwr Steve Parkin oedd wrth y llyw yn ei absenoldeb.

Sgoriodd Jake Hyde ddwy gôl, gyda Paul Mullin a Jordan Ponticelli hefyd yn rhwydo.

Bydd Wrecsam yn herio Spennymoor oddi cartref mewn gêm gyfeillgar ddydd Sadwrn (Awst 7).