Wrth i Gymru lacio rhan fwyaf o gyfyngiadau Covid-19 yfory (Dydd Sawrn, Awst7), mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford yn wfftio sôn am “Ddiwrnod Rhyddid”.
Fe ddywedodd wrth raglen Today ar BBC Radio 4 “Dydyn ni ddim yn defnyddio iaith fel yna yma yng Nghymru, gan nad yw’r cyfan drosodd.”
“Mae cannoedd o bobl bob dydd yn parhau i fynd yn sâl oherwydd y coronafeirws ac rydyn ni’n dal i fod yn y drydedd don.
“Felly er bod heddiw’n ddiwrnod da yma yng Nghymru ac yn ddiwrnod o optimistiaeth, mae hefyd yn ddiwrnod lle gofynnwn i Gymry barhau i wneud eu cyfraniad er mwyn cadw ein gilydd, a Chymru, yn ddiogel rhag y feirws ofnadwy hwn.”
Fe laciwyd rheolau Covid-19 yn Lloegr fis diwethaf gyda Boris Johnson yn galw’r diwrnod yn “Ddiwrnod Rhyddid”.
Gorchudd wyneb
15 mis ers y cyfnod clo cyntaf fe fydd Cymru yn symud at lefel rhybudd sero sy’n golygu y bydd pob busnes yn gallu ailagor a’r cyfyngiadau ar gwrdd â phobl eraill hefyd yn cael eu codi.
Er na fydd yn rhaid i bobl ymbellhau’n gymdeithasol fe fydd yn ofynnol i wisgo gorchudd wyneb mewn siopau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Dywedodd Mr Drakeford wrth BBC Radio Wales y dylai pobl wisgo mygydau mewn siopau a gweithleoedd.
“Rydyn ni’n gwybod eu bod nhw’n fannau lle mae’r risgiau o ddod i gysylltiad â rhywun arall gyda coronafeirws,” meddai.
“Mae’n rhagofal syml. Nid yw’n costio llawer i ni wisgo mwgwd mewn siop.
“Mewn rhannau eraill o’r byd lle codwyd gwisgo masg, mae’n rhaid ei ailgyflwyno eto, fel yr oedd yr wythnos diwethaf yn Unol Daleithiau America.”
Hunan-ynysu
Bydd y gofyniad o weini wrth y bwrdd mewn tafarndai a bwytai yn dod i ben yn ogystal â chyfyngiadau ar niferoedd mewn partïon priodas yn cael eu codi.
Er i reolau ar ynysu newid, fe fydd dal yn rhaid hunan-ynysu am 10 diwrnod os ydy rhywun yn dal Covid.
Bydd datganiad llawn cael ei wneud gan y Prif Weinidog amser cinio heddiw (Ddydd Gwener, Awst 6).
Y newidiadau
- Bydd pob busnes yn cael ailagor gan gynnwys clybiau nos.
- Bydd rhaid i gwmnïau gynnal asesiadau risg.
- Dim cyfyngiadau cyfreithiol ar nifer y bobl sy’n gallu cwrdd ag eraill.
- Ni fydd angen gwisgo mygydau mewn tafarndai na bwytai, nac ysgolion.
- Bydd angen gwisgo gorchudd wyneb mewn siopau, ar drafnidiaeth gyhoeddus, wrth dderbyn gofal iechyd.
- Os ydyw person wedi brechu’n llawn ni fydd angen iddynt hunan-ynysu os ydyn nhw’n dod i gyswllt agos â rhywun sydd wedi profi’n bositif.
Ychwanegodd Mr Drakeford wrth BBC Radio Wales os bydd pobl yn gweithredu fel pe na bai coronafeirws yn bodoli mwyach fe all y “feirws ddod nôl atom,” meddai.
“Dyna pam rydyn ni’n dweud wrth bobl yng Nghymru heddiw, y pethau bach hynny rydyn ni i gyd wedi dysgu eu gwneud yn ein bywydau – i barchu pobl eraill, cyfarfod yn yr awyr agored lle gallwn, golchi ein dwylo’n aml, gwisgo mygydau mewn mannau dan do sy’n orlawn – mae’r holl bethau hyn yn gwneud yn ein hamddiffyn yn sylweddol yn erbyn y coronofeirws”
Diogelu
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford nad yw’n “disgwyl” i gyfyngiadau cyfnod clo ddychwelyd yng Nghymru ond mynnodd y byddai Llywodraeth Cymru yn gweithredu eto os oes angen.
“Er bod y rhaglen frechu yn parhau i roi’r amddiffyniad hwnnw i ni, dydw i ddim yn disgwyl y bydd yn rhaid i ni ddychwelyd at y mathau o gyfyngiadau a welsom ddechrau’r flwyddyn,” meddai.
“Ond ni all neb ddiystyru’r pethau annisgwyl, y pethau annisgwyl ofnadwy y mae’r feirws hwn wedi’u cael i fyny ei lewys.
“Pe bai newid sydyn er gwaeth ac na allwn ei ragweld, yna wrth gwrs bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu eto i ddiogelu bywydau pobl Cymru.”
“Mae llwyddiant ein rhaglen frechu wir yn golygu bod y cysylltiad rhwng mynd yn sâl ar y naill law a bod mor sâl fel bod rhaid i chi fod mewn ysbyty wedi ei erydu’n fawr.”
“Nid yw wedi cael ei ddileu, ond mae wedi cael ei erydu’n sylweddol.”
‘Tanseilio’
Mae Mr Drakeford hefyd wedi beirniadu llywydd cynhadledd y DU ar newid hinsawdd, Alok Sharma am deithio i fwy na 30 o wledydd mewn saith mis.
Fe ddywedodd fod gweithredoedd y cyn Ysgrifennydd Busnes yn “tanseilio ymdrechion” pobl gyffredin..
“Rydyn ni i gyd wedi gorfod arfer cael cyfarfodydd gyda phobl mewn gwahanol rannau o’r byd heb orfod teithio o amgylch y byd i wneud hynny.
“Tra ein bod ni’n ceisio darbwyllo pobl i wneud newidiadau yn eu bywydau pob dydd [i wella’r amgylchedd] mae angen i bobl ar y top i gyfleu hynny.”