Mae Conwy wedi cyflwyno cais i ddod yn Ddinas Diwylliant y Deyrnas Unedig 2025.
Dyma’r ail ardal yng ngogledd y wlad i fynd amdani – gan fod gan dinas Bangor yng Ngwynedd hefyd yn gwneud cais.
Mae Dinas Diwylliant y Deyrnas Unedig yn gystadleuaeth sy’n cael ei rhedeg gan yr Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Bob pedair blynedd, mae dinasoedd yn cystadlu i ennill y teitl.
Dinas Diwylliant gyntaf y Deyrnas Unedig oedd Derry yn 2013 ac yna Hull yn 2017.
Ceisiodd Caerdydd i fod yn Ddinas Diwylliant y Deyrnas Unedig 2021, ond enillwyd y teitl gan Coventry.
Pe bai cais Conwy yn llwyddiannus, byddai’r sir yn dal y teitl rhwng 2025 a 2029.
Mae newid yn rheolau’r gystadleuaeth yn golygu bod ardaloedd, dinasoedd, neu gymunedau yn gallu ymgeisio am yr anrhydedd.
‘Anturus’
Nawr mae’r cyngor yn galw ar bobol i helpu i lywio’r cynnig drwy gynllunio digwyddiadau “chwareus, anturus a hygyrch”.
Mae hefyd yn gofyn i drigolion ddefnyddio’r hashnod #Conwy 2025 a thagio @Conwy2025 ar y cyfryngau cymdeithasol.
“Rhowch eich mewnwelediad i’r rhinweddau arbennig, yr heriau a’r dalent greadigol leol ar ble rydych chi’n byw,” meddai datganiad gan y cyngor.
“Canolbwynt Conwy 2025 yw’r dyhead i ddatblygu gweledigaeth Strategaeth Ddiwylliant Conwy ar gyfer rhwydwaith gynrychioliadol a gwydn i gefnogi bywyd diwylliannol hyd at 2025 a thu hwnt.
‘Sbarc’
“Daw Conwy 2025 ag arweinyddiaeth gref a chydlynol wrth rymuso cymunedau i gyfeirio rhaglenni ar lwybrau daear eu trefi a’u pentrefi.
“Bydd Conwy 2025 yn sicrhau cynrychiolaeth gan arweinwyr cymunedol, pobl greadigol, sefydliadau celfyddydau cymunedol, busnes lleol, trafnidiaeth, ac, yn hanfodol, trigolion lleol ar draws y dirwedd ddiwylliannol.”
Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, y Cynghorydd Charlie McCoubrey: “Bydd Conwy 2025 yn creu sbarc yn ein cymunedau a fydd yn arwain at dwf economaidd, lles a chysylltiad.”