Disgrifiodd perchennog cwmni gwyliau yng Ngwynedd y sefyllfa iddyn nhw fel “sobor” – er gwaethaf y llacio ar gyfyngiadau teithio.

Ddoe, dywedodd asiantaeth teithio annibynnol mwyaf y DU – cwmni Hays – eu bod wedi gweld “cynnydd mawr” mewn ymholiadau yn yr wythnosau diwetha.

Dywedodd cadeirydd Hays, Dame Irene Hays, bod eu archebion wedi codi 193% ar ôl i gyfyngiadau teithio gael eu llacio mewn sawl gwlad ddoe.

Ond yn ôl perchennog cwmni teithio Wonderling ym Mhwllheli, Renee Wonderling, mae’r sefyllfa iddyn nhw ar hyn o bryd yn “sobor”.

“Y broblem sydd gennym ni ydi bod rhan fwyaf o bobl ofn teithio, ddim o reidrwydd oherwydd y firws ei hun ond oherwydd y cyfyngiadau,” meddai.

“Mae’r system goleuadau traffig yn gymhleth iawn, ac mae pobl ofn costau profion a gwaith papur.

“Fel cwmni rydyn ni’n ceisio gwneud cymaint â fedrwn ni dros gwsmeriaid ond y broblem ydi bod rhaid iddyn nhw wneud y ffurflenni eu hunain ar-lein.

Normal

“Mae llawer o’n cwsmeriaid ni’n hyn a heb ffôn clyfar, felly dydyn nhw ddim yn gallu defnyddio’r rhyngrwyd mor hawdd.

“Maen nhw jyst yn teimlo bod o’n ormod o drafferth, felly mae rhan fwyaf yn disgwyl tan i gyfyngiadau orffen a bod popeth yn ôl i normal.”

Er bod pethau’n dechrau gwella o ran cyfyngiadau a “mymryn yn fwy” o bobl yn archebu gwyliau, mae Renee’n dweud bod y gefnogaeth ddim yn ddigon i’w cynnal nhw.

“Mae pethau wedi gwella ers o gwmpas mis Mehefin, pan doedd gennym ni neb yn archebu gwyliau o gwbl,” meddai.

‘Bargeinion’

“Mae yna ambell o bobl ddewr yn cadw’r gwyliau neu yn gwneud bargeinion hwyr hefyd.

“Bydd yna lawer mwy yn mynd mis Medi, ond gawn ni weld munud olaf os ydyn nhw’n penderfynu mynd neu beidio.

“Y broblem ydy mai adeg yma o’r flwyddyn rydyn ni’n gwneud ein harian i gadw ni fynd dros y gaeaf, pan mae hi’n ddistawach.

“Dydyn ni ddim yn gwneud y pres yna ar hyn o bryd.

“Dw i heb allu gwneud elw ers mis Chwefror llynedd, ac rydyn ni wedi bod yn byw ar grantiau a benthyciadau ers hynny.

“Mae hynny wedi stopio erbyn hyn, achos bod y busnesau i gyd ar agor, er bod neb yn prynu gwyliau.”

‘Gweddïo’

Wrth feddwl am y cymorth gall y Llywodraeth roi, mae Renee’n dweud bod angen iddyn nhw ystyried y diwydiant teithio’n wahanol i’r diwydiant lletygarwch.

“Maen nhw’n labelu ni fel busnes manwerthu, ac iddyn nhw, mae popeth yn ôl i normal yn y diwydiant, felly hen dro,” meddai.

“Mae asiantaethau teithio ar draws y wlad yn teimlo fel hyn, ac roedd yna brotestiadau fis Mehefin.

“Mae yna hanner miliwn o bobl yn gweithio yn y diwydiant sy’n cael eu heffeithio ac efallai’n mynd i golli gwaith.

“Ym Mhwllheli, mae pawb arall sydd ar agor yn gwneud arian o dwristiaid, a ni ydi’r unig fusnes sydd ddim yn gwneud dim.

‘Dw i jyst yn gweddïo wneith y Llywodraeth wneud rhywbeth i’r diwydiant teithio yn benodol.”