Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi dweud mai’r ffordd i annog pobol ifanc i gael eu brechu yw dweud bod ganddynt “gyfraniad i’w wneud” yn hytrach na chynnig “gwobrau”.
Daw hyn wrth i’r Llywodraeth baratoi i lacio mesurau coronafeirws Cymru i lefel rhybudd sero.
Fodd bynnag, mae Mark Drakeford wedi wfftio sôn am “Ddiwrnod Rhyddid” fel y cafwyd yn Lloegr.
“Dydyn ni ddim yn defnyddio’r iaith honno yma yng Nghymru gan nad yw’r cyfan drosodd eto,” meddai wrth raglen ‘Today’ BBC Radio 4.
“Mae cannoedd o bobol yn dal i fynd yn sâl â’r coronafeirws bob dydd yn sgil y drydedd don ac er bod brechu wedi newid y berthynas rhwng mynd yn sâl a mynd i’r ysbyty, nid yw wedi’i ddileu.
“Felly, er bod heddiw’n ddiwrnod da yma yng Nghymru, diwrnod o optimistiaeth yma yng Nghymru, mae hefyd yn ddiwrnod lle gofynnwn i bobol Cymru barhau i wneud y cyfraniadau hynny y gall pob un ohonom eu gwneud i gadw ein gilydd, a Chymru, yn ddiogel rhag y feirws ofnadwy hwn.”
Diogelu eraill
Pan ofynnwyd iddo am roi brechlynnau i bobol ifanc rhwng 16 ac 17 oed, dywedodd: “Mae dros 75% o bobol rhwng 18 a 29 oed eisoes wedi derbyn dos cyntaf o frechlyn, ac mae 55% wedi cael eu brechu ddwywaith yn barod.
“Felly, nid yw ein hapêl i bobol ifanc yn un sydd naill ai’n eu bygwth drwy ddweud na fyddwch yn gallu gwneud pethau neu’n ceisio eu cymell drwy gynnig gwobrau iddynt, ond mae’n dweud wrthynt, ’mae gennych gyfraniad i’w wneud, gallwch gadw eich hun yn ogystal â phobol eraill sy’n bwysig i chi’n ddiogel’.
“Mae’r apêl honno, rwy’n credu, yn golygu ein bod wedi llwyddo i gael ein niferoedd brechu yn y garfan honno i fyny’n uwch nag mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.”
Condemio sylwadau “gwallgof” Boris Johnson
Mae Mark Drakeford hefyd wedi condemnio Boris Johnson ar ôl iddo ddweud bod Margaret Thatcher wedi rhoi “hwb cynnar” i’r Deyrnas Unedig yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd pan gaeodd byllau glo’r wlad yn yr 1980au.
“Mae arnaf ofn bod y sylwadau hynny’n wallgof ac yn sarhaus,” meddai.
“Does dim modd mesur y difrod a wnaed i ardaloedd glofaol Cymru 30 mlynedd yn ôl, a dyma ni 30 mlynedd yn ddiweddarach ac mae’r Torïaid yn dal i ddathlu’r hyn a wnaethant.”