Mae Mark Drakeford yn rhybuddio pobol yng Nghymru i barhau i gymryd camau i atal ymlediad Covid-19 wrth iddo gyhoeddi bod y wlad yn symud i gyfyngiadau Lefel 0 ddydd Sadwrn (Awst 7).
Yn sgil y llacio, fydd clybiau nos yn cael ail-agor ac ni fydd cyfyngiadau ar faint o bobol fydd yn gallu dod ynghyd, a bydd pob busnes yn cael agor eto.
Ond bydd rhai mesurau yn dal yn eu lle i warchod pobol rhag y coronafeirws, gan gynnwys:
- gorfodaeth i hunanynysu am ddeng niwrnod os oes gennych chi symptomau’r feirws neu yn dilyn prawf positif;
- bydd rhaid parhau i wisgo mygydau neu orchudd wynebau yn y rhan fwyaf o lefydd dan do, gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus, siopau a lleoliadau gofal iechyd – ond bydd eithriadau i rai pobol yn parhau;
- rhaid i unrhyw un sydd â chyfrifoldeb am safle sydd ar agor i’r cyhoedd gwblhau asesiad risg a chymryd camau priodol i leihau’r risg o ymlediad.
Yn ôl Lefel 0:
- Fydd dim cyfyngiadau o ran faint o bobol fydd yn cael dod ynghyd, gan gynnwys mewn cartrefi, llefydd cyhoeddus neu mewn digwyddiadau;
- Bydd busnesau oedd yn gorfod cau cyn hyn yn cael ailagor, ac mae hyn yn cynnwys clybiau nos;
- Bydd mwy o hyblygrwydd i safleoedd sydd ar agor i’r cyhoedd ac sy’n weithleoedd ynghylch pa fesurau rhesymol sy’n gallu cael eu cymryd i leihau’r risg o ymlediad, ond dylid teilwra’r asesiad risg ar gyfer amgylchiadau unigol penodol;
- Fydd dim rhaid gwisgo mwgwd neu orchudd wyneb mewn lleoliadau lletygarwch lle mae bwyd a diod yn cael eu gweini, ond byddan nhw’n parhau’n orfodol mewn rhai lleoliadau dan do.
Fydd dim rhaid ychwaith i oedolion sydd wedi’u brechu’n llawn na phlant o dan 18 oed hunanynysu os ydyn nhw’n dod i gysylltiad â rhywun sydd wedi profi’n bositif am Covid-19.
Ymateb
“Mae symud i lefel rhybudd sero yn gam pwysig arall ymlaen inni i gyd. Am y tro cyntaf ers dechrau’r pandemig, bydd pob busnes yn gallu agor a bydd yr holl gyfyngiadau cyfreithiol ar gwrdd â phobl mewn lleoedd preifat o dan do yn cael eu dileu,” meddai’r prif weinidog Mark Drakeford.
“Nid yw lefel rhybudd sero yn golygu diwedd y cyfyngiadau na rhyddid i bawb wneud fel y mynnant. Ond mae’n golygu y gallwn ni i gyd fwynhau mwy o ryddid gyda’r hyder bod mesurau diogelwch pwysig ar waith o hyd i sicrhau bod iechyd y cyhoedd yn cael ei ddiogelu pan fyddwn yn mynd allan.
“Yn anffodus, nid yw’r pandemig drosodd eto ac mae angen inni weithio gyda’n gilydd i wneud popeth y gallwn ni i gadw’r feirws hwn o dan reolaeth – ar lefel rhybudd sero, bydd popeth yr ydyn ni’n ei wneud yn cael effaith ar y feirws hwn.
“Hyd yn oed os ydych wedi’ch brechu’n llawn, mae’n fwy diogel cwrdd tu allan na thu mewn. Cofiwch adael awyr iach i mewn i fannau o dan do, cael prawf hyd yn oed ar gyfer symptomau ysgafn, a hunanynysu pan fo’n ofynnol ichi wneud hynny.
“Fe ddylen ni barhau i gadw ein pellter pan fyddwn allan a gweithio gartref os yw’n bosib. Fe ddylen ni hefyd barhau i wisgo masg wyneb, yn enwedig mewn mannau prysur, ar drafnidiaeth gyhoeddus, mewn siopau ac mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.
“Mae cymryd cyfrifoldeb a gweithio gyda’n gilydd yn golygu y gallwn ni i gyd wneud y pethau yr ydyn ni wedi’u methu fwyaf. Mae gan bawb ei reswm i ddiogelu Cymru.”
Newidiadau “annerbyniol” i deithwyr
Ddiwrnod ar ôl i’r drefn newydd ddod i rym yng Nghymru, fe fydd cyfyngiadau teithio yn newid ledled y Deyrnas Unedig, er bod Llywodraeth Cymru’n parhau i rybuddio pobol rhag teithio dramor.
Ond mae’r Ysgrifennydd Iechyd Eluned Morgan yn dweud eu bod nhw wedi ceisio sicrhau cyfyngiadau ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan, ond fod “penderfyniadau ar gyfer Lloegr wedi’u gwneud unwaith eto heb drafod â Llywodraeth Cymru na’r Llywodraethau Datganoledig eraill”.
“Mae hyn yn annerbyniol,” meddai.
“Mae’r polisi teithio rhyngwladol yn effeithio ar bob rhan o’r Deyrnas Unedig ac mae angen i fuddiannau Cymru gael eu hystyried fel rhan o’r broses benderfynu.
“Rydym yn hynod siomedig â’r dull gweithredu unochrog hwn ac yn credu bod risgiau amlwg o hyd i iechyd y cyhoedd wrth roi’r hawl i deithio’n rhyngwladol tra bo’r feirws yn ar led yn fyd-eang.
“Am y rhesymau hyn, rydym yn parhau i argymell na ddylid teithio’n rhyngwladol yr haf hwn ac eithrio am resymau hanfodol.
“Fodd bynnag, gan ein bod yn rhannu ffin agored â Lloegr, ni fyddai’n ymarferol nac yn bosibl cyflwyno polisi iechyd gwahanol ar wahân ar gyfer y ffin.
“Felly, byddwn ninnau’n gwneud yr un newidiadau â’r rhai sy’n cael eu gwneud yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, er mwyn cynnal yr un system goleuadau traffig â gweddill y Deyrnas Unedig.”
Yn sgil hynny:
- Bydd Awstria, yr Almaen, Slofenia, Slofacia, Latfia, Romania a Norwy yn cael eu symud o’r rhestr oren i’r rhestr werdd.
- Bydd Georgia, La Réunion, Mayotte a Mecsico yn cael eu symud o’r rhestr oren i’r rhestr goch.
- Bydd India, Bahrain, Qatar a’r Emiraethau Arabaidd Unedig yn cael eu symud o’r rhestr goch i’r rhestr oren.
- Bellach, ni fydd pobl sydd wedi’u brechu’n llawn yn y DU, yn Ewrop neu yn Unol Daleithiau America, gyda brechlynnau cymeradwy, yn gorfod hunanynysu a chymryd prawf PCR ar yr wythfed diwrnod ar ôl cyrraedd o Ffrainc.
Bydd y newidiadau hyn yn dod i rym am 4yb ar ddydd Sul, Awst 8.