Mae’r Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad bod Cymru’n symud i Lefel Rhybudd 0 yfory (dydd Sadwrn, 7 Awst).

Er hynny, mae’r ddwy blaid yn dweud eto bod angen ymchwiliad Covid-19 sy’n canolbwyntio’n benodol ar Gymru.

Fe wnaeth y Prif Weinidog Mark Drakeford gyhoeddi nos Iau (4 Awst) na fydd cyfyngiadau ar gyfarfod pobol mwyach, a bydd pob busnes yn cael ailagor.

Bydd lleoliadau sydd ar agor i’r cyhoedd, a gweithleoedd, yn cael mwy o hyblygrwydd i osod mesurau rhesymol er mwyn lleihau’r risg o ledaenu Covid-19 – a dylai’r rhain gael eu haddasu’n seiliedig ar asesiad risg a’u sefyllfa.

Ni fydd gwisgo mygydau mewn bwytai, caffis a thafarndai lle mae bwyd a diod yn cael eu gweini yn ofyniad cyfreithiol, ond bydden nhw’n ofynnol yn y rhan fwyaf o leoliadau cyhoeddus dan do.

“Mwynhau ffrwyth llafur ein hymgyrch frechu”

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd arweinwyr y Ceidwadwyr Cymreig, ei bod hi’n “amser i ni gyd fwynhau ffrwyth llafur ein hymgyrch frechu”.

“Ar ôl deunaw mis hir, dw i’n falch ein bod ni’n symud i Lefel 0 yng Nghymru gan ei bod hi’n amser i ni gyd fwynhau ffrwyth llafur ein hymgyrch frechu, wrth barhau i fod yn wyliadwrus wrth gwrs,” meddai Andrew RT Davies.

“Mae pobol yn barod i gyfarfod eu hanwyliaid fel yr oedden nhw’n arfer gwneud ac mae busnesau angen bod ar lwybr adferiad, ac mae hi’n hanfodol nawr fod y Llywodraeth Lafur yn gwario’r £1 biliwn o arian Covid-19 sydd yn eu cronfeydd er mwyn cefnogi swyddi Cymreig.

“Wrth i ni agosáu at ddiwedd y cyfyngiadau, rhaid i ni edrych tuag at roi cyfiawnder i’r rhai sydd wedi dioddef yn sgil y feirws a’r cyfnodau clo, yn ogystal ag edrych ymlaen at godi’n ôl mor gryf â phosib.

“Dyna pam mae’n rhaid cael ymchwiliad ar gyfer Cymru i gyd er mwyn edrych ar sut mae’r Llywodraeth Lafur wedi mynd i’r afael â’r pandemig – ymchwiliad mae’r Prif Weinidog yn dal i’w osgoi heb esboniad.”

Dysgu gwersi

Mae Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru, wedi galw am “fwy o wyliadwriaeth” nawr, a chyn y cyhoeddiad fe wnaeth y blaid alw am fwy o ffocws ar fonitro lledaeniad y feirws.

Rhaid i’r gwyliadwriaeth ychwanegol gyd-fynd â sicrwydd bod gwersi’n cael eu dysgu o’r pandemig, a hynny drwy ymchwiliad penodol i Gymru, meddai.

Mae Rhun ap Iorwerth, Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn, yn cefnogi symud i Lefel 0, cyn belled â bod Llywodraeth Cymru’n gallu darparu “gwyliadwriaeth hyd yn oed yn fwy caeth” a’u bod nhw’n “barod i gymryd cam yn ôl os oes angen”.

“Codi cyfyngiadau yw lle’r ydym i gyd am fynd, ar ôl 18 mis sydd wedi gosod rhwystrau arnom i gyd,” meddai Rhun ap Iorwerth.

“Mae’n rhaid monitro’r sefyllfa nawr gyda gwyliadwriaeth hyd yn oed yn fwy llym, ac os bydd adwaith andwyol o ran nifer yr achosion a derbyniadau i’r ysbyty oherwydd Covid, rhaid i’r Llywodraeth fod yn barod i gymryd cam yn ôl os oes angen.

“Mae angen sicrwydd arnom hefyd gan y llywodraeth bod gwersi wedi’u dysgu o’r cyfnod yma, a dyna pam mae angen ei hymchwiliad cyhoeddus ei hun ar Gymru i’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â’r pandemig.

“Mae’n rhaid i’r Llywodraeth gymryd cyfrifoldeb am ei gweithredoedd – da a drwg.

“Wrth i Gymru ennill mwy o ryddid, dyma’r adeg iawn i fyfyrio ar yr hyn a wnaethom yn iawn, a’r hyn y mae’n rhaid inni ei newid, er mwyn sicrhau na fydd yn rhaid inni byth ailadrodd y 18 mis diwethaf.”

Cymru’n symud i gyfyngiadau Lefel Rhybudd Sero

Bydd y mwyafrif o reoliadau Covid yn dod i ben ddydd Sadwrn (Awst 7)

‘Pobol Cymru yn haeddu gwell na bod yn bennod mewn ymchwiliad gohiriedig i’r Deyrnas Unedig’

Plaid Cymru yn adnewyddu galwadau am ymchwiliad COVID sy’n benodol i Gymru

Cyhuddo Eluned Morgan o “osgoi” ymchwiliad i ymateb Llywodraeth Cymru i’r pandemig

Pobol Cymru yn haeddu atebion llawn ynghylch pam y gwnaeth eu Llywodraeth yr hyn wnaethon nhw, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig