Mae Plaid Cymru wedi adnewyddu ei galwad am ymchwiliad cyhoeddus sy’n benodol i Gymru ynglŷn a’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â’r pandemig.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau mai’r unig ymchwiliad cyhoeddus y maent eisiau ydy un sy’n “ymdrin â’r Deyrnas Unedig yn gyfan.”

Mae Prif Weinidog Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford, wedi cael cytundeb gan Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, Boris Johnson, y bydd Cymru’n cael ei chynnwys yn yr ymchwiliad ledled y Deyrnas Unedig.

Roedd Boris Johnson wedi cadarnhau o’r blaen na fydd yr ymchwiliad cyhoeddus yn dechrau tan wanwyn 2022.

Oedi

Mae Rhun ap Iorwerth, llefarydd Iechyd a Gofal Plaid Cymru, wedi galw nifer o weithiau am ganolbwyntio ar Gymru, yn hytrach na gwasgu cwestiynau am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â’r pandemig i bennod o ymchwiliad ehangach.

Ac mae’n dweud bod Mark Drakeford, drwy wrthod hyn, yn cytuno i’r oedi gan Boris Johnson.

Ym mis Gorffennaf, arweiniodd Plaid Cymru ddadl ar y cyd yn y Senedd yn galw am ymchwiliad sy’n benodol i Gymru, a wrthodwyd gan Lywodraeth Cymru unwaith yn rhagor.

Gwersi

“Bydd colli bywyd, yn ogystal â cholli rhyddid, addysg, ac effaith economaidd ddofn yn pwyso’n drwm arnom am flynyddoedd i ddod. Bydd angen i ni edrych ar yr hyn a ddigwyddodd yn fanwl, ac yn gyhoeddus, i ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol,” meddai Rhun ap Iorwerth.

“Ond gyda chymaint o’r meysydd polisi perthnasol wedi’u datganoli, a chymaint o benderfyniadau wedi’u gwneud yng Nghymru, mae angen ymchwiliad sy’n benodol i Gymru arnom.

“Mae’n rhaid i’r Llywodraeth gymryd cyfrifoldeb am ei gweithredoedd – da a drwg, ac ni ddylid osgoi craffu manwl.

“Wrth wrthod y galw am ymchwiliad cyhoeddus sy’n benodol i Gymru, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn ei hanfod yn cytuno i’r oedi gan Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, ac yn cadarnhau eu bod yn hapus i Gymru fod yn bennod yn ymchwiliad gohiriedig y Deyrnas Unedig.

“Mae pobol Cymru yn haeddu gwell na hyn.”