Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i farwolaeth Logan Mwangi, bachgen pump oed o Sarn ger Pen-y-bont ar Ogwr, wedi cyhuddo tri o bobol mewn perthynas â’r achos.

Mae John Cole, 39 oed o Sarn, wedi’i gyhuddo o lofruddio, tra bod Angharad Williamson, sydd hefyd o Sarn, a bachgen 13 oed wedi’u cyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae’r tri wedi’u cadw yn y ddalfa, a byddan nhw’n mynd gerbron ynadon yng Nghaerdydd heddiw (dydd Iau, Awst 5).

‘Achos erchyll iawn’

“Mae hwn yn achos erchyll iawn i bawb sydd ynghlwm wrtho, ac rwy’n estyn fy nghydymdeimlad dwysaf i deulu a ffrindiau Logan,” meddai’r Ditectif Uwch Arolygydd Mark O’Shea o Heddlu’r De.

“Mae hwn yn parhau’n ymchwiliad trylwyr a sensitif gan y Tîm Ymchwilio i Droseddau Difrifol ac rwy’n ddiolchgar i’r gymuned leol am eu cefnogaeth a’u dealltwriaeth tra ein bod ni wedi parhau i gasglu tystiolaeth ar draws sawl safle.

“Mae camau cyfreithiol bellach wedi cychwyn ac rwyf am atgoffa pawb i osgoi dyfalu a allai peryglu’r ymchwiliad hwn.

“Rydym yn parhau i apelio ar unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth mewn perthynas â’r digwyddiad i gysylltu â’r Tîm Troseddau Difrifol.”

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu’r De ar 101.