Mae plismon sy’n gweithio i Heddlu’r De wedi’i gyhuddo o ymosod, yn dilyn ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.
Mae’r Cwnstabl Rowan Knight, 30, wedi’i gyhuddo o ymosod ar ddyn yn ystod digwyddiad yn yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd am oddeutu 2 o’r gloch fore Sadwrn, Ionawr 9.
Mae’n ymwneud ag arestio dyn oedd wedi cwyno bod y plismon wedi defnyddio gormod o rym arno yn y stryd ac yng nghar yr heddlu.
Fe fu ymchwiliad ar y gweill ers mis Chwefror, ar ôl i Heddlu’r De gyfeirio’r digwyddiad at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.
Roedden nhw wedi bod yn ystyried deunydd fideo a thystiolaeth y dyn a gafodd ei arestio a’r plismyn oedd yno cyn trosglwyddo ffeil i Wasanaeth Erlyn y Goron.