Mae undeb NAHT Cymru yn dweud nad ysgolion ddylai fod yn gyfrifol am “orfodi na phlismona” brechiadau Covid-19 i bobol ifanc 16 ac 17 oed.

Daw hyn ar ôl i Lywodraeth Cymru gadarnhau y bydd plant 16 ac 17 oed yn cael derbyn brechlyn Covid-19.

Roedd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi cynghori heddiw (dydd Iau, Awst 5) y dylid cynnig y dos cyntaf o’r brechlyn i bawb.

Hefyd, bydd y rhai sydd mewn grwpiau risg yn cael derbyn dau ddos o’r brechlyn o heddiw, yn cynnwys y rheiny sydd rhwng 12 a 15 oed.

Bydd y JCVI yn cyhoeddi cyngor maes o law ynghylch pa bryd i gynnig ail ddos iddyn nhw.

Mae’r Llywodraeth eisoes yn gwahodd pobol ifanc o fewn tri mis i’w penblwyddi’n 18 oed i gael y brechlyn.

Ymateb

Wrth ymateb i’r llywodraeth yn paratoi i gynnig y brechlyn Covid i bobol ifanc 16 ac 17 oed, dywedodd Laura Doel, cyfarwyddwr arweinwyr ysgolion undeb NAHT Cymru fod “y ddadl ynghylch a ddylid brechu plant hŷn ai peidio wedi bod yn mynd yn ei flaen ers wythnosau lawer”.

“Mae NAHT Cymru bob amser wedi dweud y dylai polisi Llywodraeth Cymru ar frechu plant gael ei arwain gan glinigwyr,” meddai.

“I’r graddau bod unrhyw bolisi o’r fath yn ddadleuol, mae’n amlwg na ddylai ysgolion fod yn gyfrifol am hybu brechu, gorfodi na phlismona.

“Er gwaethaf y graddau y gallai pobl ifanc ddioddef yn uniongyrchol o’r feirws, dangosodd y niferoedd mawr o ddisgyblion a oedd yn absennol o’r ysgol ddiwedd y tymor diwethaf fod gan Covid y pŵer o hyd i effeithio ar ansawdd a pharhad yr addysg a gânt.

“Mae hynny’n bryder parhaus i arweinwyr ysgolion.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru gymryd pob cam posibl i atal trosglwyddo’r feirws mewn ysgolion.

“Dyw’r ffaith fod dysgwyr iau yn benodol yn llai tebygol o gael a throsglwyddo’r feirws, ddim yn golygu nad ydynt yn chwarae rhan yn lledaeniad y feirws.”