Mae Geraint Pugh o Aberystwyth wedi’i benodi’n Ysgrifennydd Bwrdd S4C.
Daw’n wreiddiol o Lanbed, ac fe fu’n Ysgrifennydd Prifysgol Aberystwyth ers dros wyth mlynedd.
Yn ei swydd newydd, fe fydd e’n gyfrifol am gynghori Bwrdd Unedol S4C er mwyn sicrhau llywodraethiant priodol ac effeithiol ar holl waith y sianel.
Fe hefyd fydd y prif gyswllt ar gyfer Adran Ddiwylliant San Steffan.
‘Dathlu’r deugain yn 2022’
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr i ymuno gyda S4C, yn enwedig wrth i’r sianel baratoi i ddathlu’r deugain yn 2022,” meddai Geraint Pugh.
“Mae gen i atgofion melys o dyfu fyny yn gwylio S4C yn yr 80au, a gyda newidiadau helaeth yn y byd darlledu ers hynny, yn sicr rwy’n ymuno ar adeg cyffrous iawn yn ei hanes.
“Fy mlaenoriaeth fydd gweithio gyda’r Bwrdd Unedol, y Tîm Rheoli, a staff y sianel i gymeradwyo a gwireddu strategaeth newydd S4C ar gyfer y cyfnod nesaf.”
Croesawu Geraint Pugh i S4C
Meddai Rhodri Williams, Cadeirydd S4C: “Rydym yn falch iawn o groesawu Geraint i S4C ac mae’r Bwrdd yn edrych ymlaen yn fawr at gydweithio gydag e yn ystod y blynyddoedd i ddod.”
“Mae ei brofiad o lywodraethiant yn un o sefydliadau pwysig Cymru yn ei arfogi’n dda ar gyfer cynghori Bwrdd Unedol S4C.”
Bydd yn cychwyn ar ei swydd newydd ym mis Hydref.