Mae Catherine Smith, cadeirydd Hybu Cig Cymru, yn croesawu’r gefnogaeth ychwanegol gan siopau ar draws y Deyrnas Unedig.

Enghraifft o hyn yw Marks and Spencer yn lansio dewis tymhorol o Gig Oen Cymru a fydd ar gael yn eu siopau ledled Cymru a Lloegr am y tro cyntaf.

Bydd arwyddion newydd Cig Oen Cymru ym mhob siop yng Nghymru a Lloegr ac mae disgwyl i ymgyrch farchnata ar e-bost gyrraedd 2 filiwn o siopwyr.

Dywed Hybu Cig Cymru eu bod yn cynnig cefnogaeth i’r manwerthwyr ar amrywiaeth o weithgareddau hyrwyddo i hysbysebu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru.

“Mae’r data diweddaraf yn dangos bod defnyddwyr yn caru blas gwych Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru ac maen nhw’n hoffi’r hyn maen nhw’n ei glywed am stori cig coch Cymru’n gynyddol hefyd,” meddai Catherine Smith.

“Rydym ni’n falch iawn bod manwerthwyr wedi cytuno i gefnogi’r agenda hon. Mae ffermwyr Cymru’n arwain ar yr atebion i gynaliadwyedd.

“Mae gennym hinsawdd a thirlun addas, ardaloedd o goed naturiol, glaswelltir a mannau cysgodol.

“Yn ogystal â chefnogi’r manwerthwyr gyda’u gweithgareddau hyrwyddo, bydd HCC’n gweithio gyda chynhyrchwyr i ddatblygu eu harferion ffermio.

“Ar y cyd, gallwn gynnig bwyd cynaliadwy o ansawdd, sef yr union beth mae’r cwsmer yn dyheu amdano.”

“Cyffrous”

Dywedodd Steve Mclean, Pennaeth Amaethyddiaeth M&S Food, eu bod “wedi cyffroi’n fawr i fedru cyflwyno Cig Oen Cymru ym mhob un o’n siopau ar draws Lloegr, yn ogystal â Chymru, o’r haf hwn”.

“Mae 100% o’r cig oen ffres a werthir gan M&S yn dod o Brydain drwy gydol y flwyddyn, ac mae ansawdd y cig sy’n cael ei gynhyrchu gan ffermwyr Cymru’n rhagorol, mae’r anifeiliaid yn ffynnu ar dir pori cyfoethog ac adnoddau naturiol o’r amgylchedd o’u cwmpas,” meddai.

“Edrychwn ymlaen at weld sut fydd ein cwsmeriaid ar draws y Deyrnas Unedig yn ymateb i weld mwy o Gig Oen Cymru ar ein silffoedd, a’r ystod eang o brydau y gallwch eu creu gyda’r cynnyrch.”