Mae Llywodraeth Awstralia wedi addo neilltuo 1.1bn o ddoleri i fynd i’r afael â’r anghydraddoldeb mae pobol frodorol y wlad yn ei wynebu.

Mae’r swm yn cynnwys iawndal i filoedd o blant o gefndiroedd hil gymysg a gafodd eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd dros y blynyddoedd, ac mae disgwyl i’r arian gael ei ddosrannu erbyn 2026.

Fydd yr iawndal o hyd at 75,000 o ddoleri yn cael ei dalu mewn un swm unigol, ac fe fydd hyd at 7,000 o ddoleri ychwanegol ar gyfer costau megis cwnsela seicolegol ar gael i blant hil gymysg o dan reolaeth y llywodraeth ffederal yn yr Australian Capital Territory, Northern Territory a Jervis Bay Territory yn unig.

Roedd y rhan fwyaf o’r plant a gafodd eu heffeithio gan yr helynt wedi cael eu gwahanu oddi wrth eu mamau brodorol fel rhan o bolisïau gormesol oedd wedi para degawdau ac wedi dod i ben yn y 1970au.

Yn ôl y prif weinidog Scott Morrison, bwriad yr iawndal yw cydnabod y niwed i’r plant a’u teuluoedd ac mae e wedi ymddiheuro gan ddweud bod Llywodraeth Awstralia “yn cymryd cyfrifoldeb” am yr hyn ddigwyddodd.

Croesawu’r iawndal

Mae prif weithredwr Sefydliad Iechyd Cenedlaethol dan Reolaeth Cymuned yr Aborijini wedi croesawu’r iawndal, oedd wedi cael ei argymell gyntaf mor bell yn ôl â 1997 yn dilyn ymchwiliad i’r helynt.

“Mae nifer o’n pobol wedi ein gadael ni, gan gynnwys fy mam, felly mae’n ddiwrnod trist i’r sawl sydd wedi mynd, ond mae’n ddiwrnod da i’r sawl sydd wedi goroesi,” meddai Pat Turner.

Cafodd ei mam, Emma Turner, ei gwahanu oddi wrth ei theulu hithau yn y 1920au, a doedden nhw ddim wedi gweld ei gilydd eto tan y 1970au.

Mae taleithiau Awstralia wedi bod yn deddfu ar wahân ers 2008 i roi iawndal i oroeswyr yr helynt ond does gan rai taleithiau, gan gynnwys Queensland a Gorllewin Awstralia, ddim polisïau iawndal yn benodol ar gyfer y teuluoedd, ond mae ganddyn nhw’r hawl bellach i dderbyn iawndal.

‘Effaith emosiynol’

Un arall a gafodd ei gwahanu oddi wrth ei theulu yw Mona Abdullah, mam Ken Wyatt, y Gweinidog Awstraliaid Brodorol.

“Allwch chi ddim dadwneud yr effaith emosiynol mae’n ei chael,” meddai.

Mae 3% o boblogaeth Awstralia’n dod o gefndiroedd brodorol ac mae ganddyn nhw safonau addysg ac iechyd is a disgwyliad oes byrrach na grwpiau eraill yn y gymdeithas.

Mae 2% o boblogaeth Awstralia’n oedolion brodorol, a brodorion yw 27% o boblogaeth carchardai’r wlad.

Cafodd cynllun ei fabwysiadu yn 2008 i geisio codi safonau o fewn cenhedlaeth, ond cafodd ei ddileu y llynedd, wrth i’r llywodraeth ddweud bod y cynllun wedi methu.

Ond mae’r llywodraeth yn brolio’u record wrth atal pobol frodorol rhag cael eu heintio gan Covid-19.