Mae myfyriwr trydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi derbyn buddsoddiad o £13,000 i ddatblygu ei syniad busnes.

Mae Karl Swanepoel, sy’n astudio Cyfrifiadureg, wedi datblygu gwefan ac ap sy’n cysylltu gweithwyr digidol llawrydd â busnesau sy’n chwilio am wasanaethau.

Fe wnaeth platfform Topwork dderbyn y buddsoddiad ar ôl ennill gwobr CaisDyfeisio’r brifysgol ar gyfer myfyrwyr sydd â syniadau busnes.

Mae’r wobr yn cael ei chefnogi gan roddion ariannol i Gronfa Aber, ac yn cael ei threfnu gan Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol.

Fe dderbyniodd Karl £10,000 yn uniongyrchol o’r wobr, cyn cael £3,000 ar ben hynny gan yr Adran Gyfrifiadureg.

‘Breuddwyd cael bod yn fos arnaf i fy hun’

“Mae Topwork yn blatfform digidol sy’n cysylltu perchnogion busnesau bach â gweithwyr llawrydd talentog, sy’n gweithio’n rhithiol, yn ogystal â myfyrwyr sy’n arbenigo mewn sgiliau digidol,” meddai Karl.

“Nod y platfform yw dymchwel y rhwystrau i ddechrau a thyfu busnes ar-lein ac ennill incwm o bell.”

Mae Karl yn egluro mai dechrau ei gwmni ei hun yw ei “freuddwyd” ers iddo fod yn ifanc.

“Ers i mi fod yn bedair ar ddeg oed, fy mreuddwyd oedd cychwyn cwmni a bod yn fos arnaf i fy hun,” meddai wedyn.

“Mae gwobr CaisDyfeisio wedi fy helpu i gymryd cam mawr tuag at y nod hwn.

“Roedd y gystadleuaeth yn gyfle gwych i fi ddechrau Topwork, a dw i’n hynod ddiolchgar i’r beirniaid, trefnwyr y gystadleuaeth, a’r holl bobl a gymerodd amser i fy helpu yn ystod y profiad hwn.

“Mae ennill gwobrau’r gystadleuaeth wedi galluogi fi ariannu Topwork fel ei fod yn gallu lansio’n fuan iawn.

“A bydd yr arian yn helpu gweithwyr medrus, myfyrwyr a dynion busnes ledled y Deyrnas Unedig, a dw i’n gyffrous iawn i ddechrau ar hynny nawr.”

Ansawdd yn ‘drawiadol’

Mae Tony Orme, Ymgynghorydd Gyrfaoedd a Hyrwyddwr Mentergarwch y Brifysgol, wedi egluro cyd-destun y gystadleuaeth a chanmol yr ymgeiswyr gan ddweud bod y Wobr yn “uchafbwynt yng nghalendr y Brifysgol”.

“Mae’r Wobr CaisDyfeisio yn dal i fod yn uchafbwynt yng nghalendr y Brifysgol i fyfyrwyr mentergar sydd â syniad am fusnes neu fenter gymdeithasol,” meddai.

“Dyma’r seithfed tro i’r Brifysgol gynnal y gystadleuaeth, sydd ymhlith y cystadlaethau menter mwyaf i fyfyrwyr ar draws Prydain.

“Ers i ni lansio cystadleuaeth 2021 ddeuddeg wythnos yn ôl, mae timoedd o fyfyrwyr mentergar wedi mireinio’u meddyliau busnes drwy raglen o weithdai ar-lein sy’n canolbwyntio ar y sgiliau hanfodol sydd eu hangen i gychwyn busnes.

“Eleni, fe roddodd y chwe chystadleuydd terfynol gyflwyniad hanner awr bob un, gan ymateb i gwestiynau gan ein panel o gyn-fyfyrwyr, mewn sesiwn debyg i’r rhaglen deledu ‘Dragons’ Den’.

“Roedd natur arloesol y syniadau busnes ac ansawdd y cyflwyniadau yn drawiadol.”