Cafodd melin ddur Liberty Steel yng Nghasnewydd chwarter blwyddyn ariannol cyntaf lwyddiannus.

Gwelodd y felin ei pherfformiad ariannol orau mewn unrhyw chwarter blwyddyn cyntaf erioed, ac mae’r rhagolygon yn edrych yn dda ar gyfer yr ail chwarter hefyd.

Daw hyn wrth i riant gwmni Liberty Steel, GFG Alliance, setlo dwy ddadl gyda chwmnïau rhyngwladol, fisoedd ar ôl i’w prif fenthycwr fynd i’r wal.

Mae GFG Alliance, sy’n berchen ffatrïoedd dur ar draws y Deyrnas Unedig gan gynnwys Liberty Steel, yn dweud eu bod nhw wedi dod i gytundeb gyda Tata Steel.

Bydd Tata Steel yn dod â’r gweithredoedd yr oedden nhw wedi’u lansio yn erbyn tri o gwmnïau GFG, gan gynnwys Liberty Steel, i ben.

Yn ôl adroddiadau ym mis Ebrill, gweithredodd Tata yn erbyn Liberty Steel gan fod dyledion heb eu talu pan brynodd Liberty Stell y busnes yn 2017.

Wnaeth GFG, sy’n gynghrair o fusnesau’n ymwneud â diddordebau busnes teulu pennaeth Liberty Steel Sanjeev Gupta, ddim cynnig mwy o fanylion am y cytundeb.

Maen nhw hefyd wedi setlo ffrae gyda Rio Tinto, a oedd yn ymwneud â phan wnaeth GFG brynu mwyndoddwr alwminiwm Rio Tinto yn Dunkerque yn 2018.

Dydi GFG heb gyhoeddi mwy o fanylion am y cytundeb hwnnw chwaith.

Cefndir

Mae rhwydwaith Sanjeev Gupta o gwmnïau wedi bod dan bwysau ers mis Mawrth pan aeth eu prif fenthycwr, Greensill Capital, i’r wal.

Ers hynny, mae rheolwyr GFG wedi bod yn ceisio sicrhau bod eu cwmnïau’n gallu goroesi.

“Mae diweddariad gan yr RTC (Pwyllgor Ailstrwythuro a Thrawsnewid) yn dangos fod ein busnesau craidd yn parhau i berfformio’n dda iawn, ac ein bod ni’n cymryd mantais o’r amodau arbennig yn y farchnad, er gwaethaf yr heriau,” meddai Sanjeev Gupta.

“Mae mwy i’w wneud, ond rydyn ni’n credu ein bod ni’n gwneud cynnydd sydyn nawr wrth adeiladu ffydd ein credydwyr ac ein rhanddeiliaid drwy ein cynllun ailstrwythuro.

“Rydyn ni’n symud ymlaen gyda momentwm sylweddol tuag bod yn fusnes proffidiol gyda ffocysiad, sydd wedi’i ailstrwythuro.”

Pennaeth Liberty Steel: “Fydd dim un ffatri dur yn cau dan fy arweiniad i”

Sanjeev Gupta bod ar ei gwmni “sawl biliwn” i Greensill Capital