Dydy’r cytundeb rhwng yr SNP a’r Blaid Werdd yn Holyrood “ddim yn newid dim” o safbwynt cynnal ail refferendwm annibyniaeth yn yr Alban, yn ôl Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur.
Mae e wedi manteisio ar ymweliad â’r Alban i annog gwleidyddion i ganolbwyntio ar yr adferiad ar ôl Covid-19 a newid hinsawdd, ac nid ar y Cyfansoddiad.
Mae lle i gredu bod peth tir cyffredin rhwng yr SNP a’r Blaid Werdd erbyn hyn a bod y trafodaethau’n mynd rhagddynt mewn modd positif.
Byddai unrhyw gytundeb yn cadarnhau bod mwyafrif o aelodau seneddol yn Holyrood o blaid annibyniaeth i’r Alban, ond mae Keir Starmer yn mynnu na fyddai hyn yn rhoi mandad i Lywodraeth yr Alban gynnal ail refferendwm.
“Rydyn ni’n dal yn ymdrin â’r pandemig, rydyn ni’n siarad am frechu, a gobeithio y byddwn ni’n llwyddo i gael y feirws dan reolaeth, yna mae gyda ni’r adferiad i fynd i’r afael â fe, dyna’r brif flaenoriaeth, ynghyd â newid hinsawdd,” meddai Syr Keir Starmer, gan bwysleisio bod Holyrood yn gytûn ar ddechrau’r flwyddyn.
“Mae gyda ni Cop26 yma yn Glasgow ym mis Tachwedd.”
Newid hinsawdd
Daw sylwadau arweinydd y Blaid Lafur wrth iddo fynnu mwy o weithredu gan lywodraethau San Steffan a’r Alban ar fater newid hinsawdd.
Fe fu ar ymweliad â fferm wynt Whitelee ger Glasgow wrth i Glasgow baratoi i gynnal Cop26 ar ddiwedd y flwyddyn, gan alw ar weinidogion yn San Steffan a Holyrood i gamu i fyny.
Ar y safle mae 215 o dyrbinau gwynt yn gallu cynhyrchu hyd at 539 megawatt o drydan, ac mae’n dweud bod hynny’n dangos “beth gall buddsoddi yn y genhedlaeth nesaf o ynni arwain ato”.
Yn ystod ei ymweliad, fe fu’n “annog Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i dynnu eu pennau allan o’r tywod a gwneud y buddsoddiad ac ymrwymiad angenrheidiol yn ynni’r genhedlaeth nesaf”.
Mae’n cyhuddo Boris Johnson, prif weinidog Prydain, o ddiffyg “gweithredu” er bod ganddo dargedau i’w cyrraedd, ac o fod heb “strategaeth ddiwydiannol na strategaeth hydrogen”.
Yn y cyfamser, mae Boris Johnson a Kwasi Kwarteng, y Gweinidog Busnes, wedi bod yn ymweld â fferm wynt yn Nwyrain Moray yn yr Alban.