Fydd dim rhaid i deithwyr o Ffrainc sy’n cyrraedd Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban hunanynysu os ydyn nhw wedi eu brechu’n llawn.

Daw hyn wrth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi newidiadau i reolau teithio dramor heddiw (dydd Iau, Awst 5).

Ond mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn ystyried y cyhoeddiad, gan barhau i annog pobol i beidio â theithio oni bai ei bod yn angenrheidiol.

“Rydym wedi galw ers tro am system gliriach o reolau ynghylch teithio rhyngwladol,” meddai llefarydd.

“Dydy ’natur ad-hoc’ y penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwneud fawr ddim i feithrin hyder na rhoi eglurder i deithwyr.

“Rydym yn parhau i gynghori yn erbyn teithio oni bai ei fod yn hanfodol oherwydd y risg barhaus o gael eich heintio, yn ogystal ag amrywiolion newydd o coronafeirws nad ydynt efallai’n ymateb i’r brechlynnau.

“Byddwn yn ystyried y newidiadau diweddaraf a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.”

Ar hyn o bryd, Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n gosod gwledydd ar y rhestrau coch, ambr a gwyrdd ar gyfer Lloegr.

Ond mae gwledydd eraill y Deyrnas Unedig yn gyfrifol am eu rhestrau eu hunain.

Cadarnhaodd yr Alban a Gogledd Iwerddon y byddan nhw’n mabwysiadu’r un newidiadau â Lloegr, ond mae Llywodraeth Cymru wedi beirniadu “natur ad-hoc” penderfyniadau teithio Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

‘Anochel y bydd Llywodraeth Cymru yn dilyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig’

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu sylwadau Llywodraeth Cymru, gan awgrymu bod y Llywodraeth yn oedi’n ddiangen wrth wneud penderfyniadau.

“Unwaith eto rydym yn gweld ‘contrarianism ddi-sail’ gan Lywodraeth Cymru,” meddai Russel George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Nid oes unrhyw reswm da pam fod yn rhaid i’r rhai sy’n dod yn ôl i’r rhan uchaf o’r DU sydd wedi’u brechu mynd i gwarantin pan fyddant hwy eu hunain wedi cael y ddau frechiad.

“Mae’n anochel y bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn derbyn y newidiadau hyn yn y pendraw, ond byddai’n llawer mwy defnyddiol pe byddent yn gwneud hynny heb chwarae gyda gwleidyddiaeth dro ar ôl tro, yn enwedig gyda sector hedfan Cymru ar ei liniau.”

Dywedodd y Llywodraeth eu bod yn “gresynu at gynigion Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gael gwared ar ragor o ofynion cwarantîn”, gan ddweud y “byddai’n aneffeithiol i gyflwyno trefniadau ar wahân ar gyfer Cymru”, a hynny “gan ein bod yn rhannu ffin agored â Lloegr”.

Dim cwarantîn i deithwyr o’r Unol Daleithiau na’r Undeb Ewropeaidd yng Nghymru sydd wedi’u brechu’n llawn

“Byddai’n aneffeithiol i gyflwyno trefniadau ar wahân ar gyfer Cymru,” medd Llywodraeth Cymru, sy’n “gresynu” at gynigion i ddileu rhagor o ofynion