Mae Llywodraeth Cymru’n dweud na fydd rhaid i deithwyr o’r Undeb Ewropeaidd na’r Unol Daleithiau sydd wedi’u brechu’n llawn fynd i gwarantîn ar ôl cyrraedd.
Maen nhw’n rhybuddio bod “risgiau o hyd wrth ailddechrau teithio rhyngwladol” ac “o gael gwared ar gyfyngiadau cwarantîn i’r rheini sy’n cyrraedd o’r Unol Daleithiau a gwledydd yr Undeb Ewropeaidd ar y rhestr oren sydd wedi’u brechu’n llawn”.
Maen nhw’n dweud bod “risg uwch o fewnforio achosion ac amrywiolynnau sy’n peri pryder o dramor”, ond y bydd brechlynnau’n lleihau’r risg.
Mae Llywodraeth Cymru’n dweud eu bod nhw’n rhybuddio pobol rhag teithio dramor eto dros yr haf os nad yw’n hanfodol.
Er eu bod nhw’n “gresynu at gynigion Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gael gwared ar ragor o ofynion cwarantîn”, maen nhw’n dweud y “byddai’n aneffeithiol i gyflwyno trefniadau ar wahân ar gyfer Cymru”, a hynny “gan ein bod yn rhannu ffin agored â Lloegr”.
“Felly, byddwn yn cyd-fynd â Llywodraethau eraill y DU ac yn gweithredu’r penderfyniad hwn ar gyfer Cymru,” meddai’r Llywodraeth wedyn.
“Rydym yn edrych tuag at Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddarparu sicrwydd y bydd prosesau mewn lle i sicrhau bod y sawl sy’n cyrraedd y Deyrnas Unedig wedi’u brechu’n llawn.
“Yn ogystal, wrth wneud hynny, byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig am sicrwydd y byddant yn cynnal goruchwyliaeth gadarn a pharhaus o brofion PCR – gan gynnwys profion PCR a fydd i’w cynnal cyn gadael i deithio, ar ddiwrnod 2, gan gynnwys dilyniant genom canlyniadau a hynny fel un ffordd o leihau mewnforio amrywiolynnau sy’n dianc rhag effaith brechlyn.”