Mae dyn 39 oed wedi’i gadw yn y ddalfa wedi’i gyhuddo o lofruddio Logan Mwangi, bachgen pum mlwydd oed a gafodd ei ganfod yn farw mewn afon yn Sarn ger Pen-y-bont ar Ogwr yr wythnos ddiwethaf.
Aeth John Cole gerbron Llys Ynadon Caerdydd heddiw (dydd Iau, Awst 5), gan siarad er mwyn cadarnhau ei enw, ei oedran a’i gyfeiriad.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa a bydd yn mynd gerbron Llys y Goron Casnewydd yfory (dydd Gwener, Awst 6).
Mae John Cole hefyd wedi’i gyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder ynghyd â dynes 30 oed, Angharad Williamson, sydd hefyd o Sarn, a bachgen 13 oed, nad oes modd ei enwi oherwydd ei oedran.
Mae disgwyl i Angharad Williamson a’r bachgen 13 oed fynd gerbron ynadon yn ddiweddarach heddiw.
Cafodd corff Logan Mwangi ei ganfod yn afon Ogwr ger Parc Pandy ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddydd Sadwrn (Gorffennaf 31), ar ôl i’r heddlu gael eu galw yn dilyn adroddiad am blentyn oedd ar goll.
Cafodd ei gludo i Ysbyty Tywysoges Cymru, lle daeth cadarnhad ei fod e wedi marw.
Apêl yr heddlu
“Mae hwn yn achos erchyll iawn i bawb sydd ynghlwm wrtho, ac rwy’n estyn fy nghydymdeimlad dwysaf i deulu a ffrindiau Logan,” meddai’r Ditectif Uwch Arolygydd Mark O’Shea o Heddlu’r De.
“Mae hwn yn parhau’n ymchwiliad trylwyr a sensitif gan y Tîm Ymchwilio i Droseddau Difrifol ac rwy’n ddiolchgar i’r gymuned leol am eu cefnogaeth a’u dealltwriaeth tra ein bod ni wedi parhau i gasglu tystiolaeth ar draws sawl safle.
“Mae camau cyfreithiol bellach wedi cychwyn ac rwyf am atgoffa pawb i osgoi dyfalu a allai peryglu’r ymchwiliad hwn.
“Rydym yn parhau i apelio ar unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth mewn perthynas â’r digwyddiad i gysylltu â’r Tîm Troseddau Difrifol.”
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu’r De ar 101.