Bydd trefniadau dros dro i annog pobol yn ôl i ganol rhai o drefi Powys yn cael eu cadw, yn dilyn adborth gan y cyhoedd.

Fe gafodd y strydoedd eu cau er mwyn ei gwneud yn haws i bobol gadw dau fetr ar wahân yn sgil covid.

Ond roedd yna alwadau i gadw’r drefn newydd, er mwyn hyrwyddo ’diwylliant caffe’ ar brif strydoedd y trefi a denu siopwyr fyddai fel arall yn prynu ar y We.

Cafodd y mesurau dros dro eu cyflwyno yn Aberhonddu, y Gelli Gandryll, y Drenewydd a Chrughywel er mwyn cadw pellter cymdeithasol a hwyluso pethau i fusnesau, drwy ddarparu lle awyr agored i’w cwsmeriaid a digon o le i gerdded ar balmentydd.

Bydd y mesurau’n aros yn y Drenewydd, Crughywel ac Aberhonddu, ond bydd y drefn yn newid yn y Gelli Gandryll.

“Mwynhau haf prysur”

“Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn ein hymarfer ymgysylltu ac am y sylwadau gwerthfawr a gafwyd am ddyfodol canol ein trefi,” meddai’r Cynghorydd Heulwen Hulme, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar faterion Priffyrdd.

“O ystyried adborth mor gadarnhaol a chefnogol gan fusnesau, trigolion ac ymwelwyr, a gan ragweld mewnlifiad o ymwelwyr i’n sir gyda mwy o wyliau yn y wlad hon yn fwyfwy poblogaidd, bydd y mesurau dros dro yn Aberhonddu, y Drenewydd a Chrughywel yn aros yn eu lle.

“Wrth i ni symud i gyfnod o lai o gyfyngiadau cyfreithiol rydym i gyd yn edrych ymlaen yn fawr at weld ein trefi eiconig ym Mhowys yn mwynhau haf prysur.

“Ond mae’n bwysig cofio i barhau i fod yn ofalus, gyda chyngor y llywodraeth yn argymell ein bod yn cymryd cyfrifoldeb am yr hyn ry’n ni’n ei gwneud o ran cadw pellter cymdeithasol, y tu mewn a’r tu allan.

“Byddwn nawr yn mynd drwy’r holl adborth yn fanwl ac yn dechrau trafodaethau am yr hyn a allai fod yn bosibl ar gyfer pob tref yn y tymor hirach. Bydd yr holl gynigion yn mynd drwy’r lefelau priodol o ymgynghori â’r holl randdeiliaid.”

Y Gelli Gandryll

Bydd mesurau llai mewn trefi eraill yn aros mewn lle hefyd, gan gynnwys trwyddedau palmentydd i fusnesau unigol allu defnyddio mannau cyhoeddus fel llwybrau cerdded a ffyrdd.

Ond bydd y trefniadau’n newid yn y Gelli Gandryll, yn unol ag adborth ac ar gais Cyngor y Dref.

Fis diwethaf, dywedodd y Cynghorydd Gareth Ratcliffe, sy’n cynrychioli’r dref ar y Cyngor Sir, fod yna farn gymysg gref ar y mesurau yn y Gelli Gandryll.

Fel rhan o’r mesurau, roedd y ffordd drwy’r dref yn cau ar ddydd Iau a dydd Sadwrn.

Bydd y cyfyngiadau dros dro’n cael eu codi ar Awst 7, yn amodol ar Lywodraeth Cymru’n symud ymlaen â’r cynllunio i lacio cyfyngiadau.

Fodd bynnag, mae Cyngor Sir Powys yn dweud y gellid ailgyflwyno’r mesurau i gyfyngu lledaeniad y feirws os bydd cynnydd sydyn mewn achosion Covid-19.

Cadw ceir allan o ganol trefi yn barhaol? Cyngor sir mwya’ Cymru yn holi’r farn yn lleol

Mae galw am gadw cerbydau oddi ar y Stryd Fawr, er mwyn ei gwneud yn haws i siopau lleol allu cystadlu gyda chwmnïau anferthol y We