Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi dau rybudd o stormydd taranau ar gyfer y rhannau o Gymru ddydd Gwener (Awst 6) a dydd Sadwrn (Awst 7).

Bydd y rhybudd cyntaf, fydd mewn grym rhwng 4yb a 23:59yh ddydd Gwener, yn effeithio ar y gogledd.

Yna, bydd yr ail rybudd yn dod i rym am 4yb ddydd Sadwrn tan 23:59 nos Sadwrn, gan effeithio’r gogledd yn ogystal â rhannau o Geredigion a Phowys.

Mae’r Swyddfa Dywydd hefyd yn rhybuddio am y posibilrwydd o lifogydd a thrafferthion i deithwyr.

A dydd Sadwrn, mae’n bosib y bydd yno ddifrod i adeiladau o ganlyniad i fellt, cenllysg a gwyntoedd cryfion.

“Mae gennym benwythnos ansefydlog iawn ar ein dwylo, gyda rhannau helaeth o’r wlad wedi’i orchuddio gan storm fawr a rhybuddion glaw,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd.