Mae cymuned wledig yn Sir Benfro’n paratoi i gael gwasanaeth band eang fydd yn cymharu â’r cyflymaf a’r mwyaf dibynadwy yn Ewrop.

Diolch i bartneriaeth rhwng trigolion Glandŵr ac Openreach, bydd y gymuned yn cael gwasanaeth band eang tra-chyflym cyn bo hir.

Bydd y gwasanaeth ym mhentref Glandŵr, sydd ychydig filltiroedd i’r gogledd o Grymych, ar gyflymder o hyd at un gigabeit yr eiliad drwy ddefnyddio technoleg ffeibr i’r adeilad (Fibre-to-the-Premise).

Bydd y dechnoleg yn golygu bod ffeibr yn cael ei redeg yn syth o gyfnewidfa i gartref neu fusnes.

Y rhwydwaith ffeibr

Er mwyn adeiladu’r rhwydwaith ffeibr cyflawn, mae peirianwyr Openreach wedi gosod dros 21 cilomedr o geblau ffeibr rhwng y gyfnewidfa yn Aberteifi a chartrefi Glandŵr.

Bydd y rhwydwaith ffeibr band eang hon yn gwasanaethu tua chant o adeiladau.

Cafodd y rhwydwaith ei hadeiladu gyda chymorth rhaglen Partneriaeth Ffeibr Cymunedol Openreach – cynllun a gafodd ei llunio i helpu pobol sy’n byw mewn cymunedau gwledig na fydd yn derbyn gwasanaeth drwy raglenni band eang y prif gwmnïau cyfathrebu.

Mae dros 90 o gymunedau gwledig dros Gymru wedi elwa o’r bartneriaeth ag Openreach erbyn hyn, a thros 11,000 adeilad yn gallu cael bang eang ffeibr o ganlyniad.

At ei gilydd, mae dros 260 cymuned wedi gweithio gydag Openreach er mwyn ymchwilio’r posibilrwydd.

“Newyddion gwych”

Cafodd costau’r bartneriaeth â Glandŵr eu talu drwy fuddsoddiad gan Openreach a’r trigolion eu hunain wrth ddefnyddio cynllun Llywodraeth Cymru i ychwanegu at gynllun Talebau Gigabeit Gwledig Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Wrth groesawu’r rhwydwaith newydd ar ymweliad diweddar â’r pentref, dywedodd Paul Davies, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Breseli Sir Benfro, ei fod yn “newyddion gwych i’r gymuned”.

“Diolch i Openreach a’i beirianwyr am eu gwaith caled wrth gysylltu Glandŵr a llongyfarchiadau i’r gymuned ar eu cyfraniad neilltuol at y cynllun hwn,” meddai.

“Ar ôl gweithredu’r cynllun bydd trigolion Glandŵr yn awr yn gallu cysylltu â gweddill y byd wrth ddefnyddio band eang ffeibr cyflawn tra chyflym.”

“Pontio’r bwlch”

“Mae pawb yn deall pa mor bwysig yw darparu band eang cyflym a dibynadwy ar gyfer cartrefi a busnesau ar hyd a lled y wlad,” meddai Connie Dixon, Cyfarwyddwraig Partneriaeth Openreach yng Nghymru.

“Wrth redeg busnes, dysgu gartref neu siopa – byddwn yn gwneud cymaint arlein erbyn hyn.

“Er bod dros 95% o adeiladau yng Nghymru yn gallu cael band eang tra-chyflym erbyn hyn, mae dal llawer o waith ar ôl er cyrraedd y cartrefi a busnesau mwyaf anodd eu cyrraedd.

“Yn anffodus, mae dal nifer fach o gymunedau tebyg i Glandŵr sy’n methu cael cysylltedd band eang da wrth i’r cwmnïau cyfathrebu, am amryw resymau, fethu uwchraddio gwasanaethau fel rhan o’u rhaglenni arferol. Sefydlwyd Partneriaeth Ffeibr Cymunedol Openreach er mwyn pontio’r bwlch a helpu i ledu band eang tra chyflym i’r ardaloedd hynny.

“Wrth ddarparu band eang tra chyflym ar gyfer cymuned Glandŵr rydym yn tanlinellu ein hymroddiad i ledu band eang ffeibr i bob rhan o Gymru – yn cynnwys yr ardaloedd anodd eu cyrraedd.”

Cynlluniau

Mae’n bosib y bydd trigolion a busnesau mewn ardaloedd gwledig yn gymwys i hawlio talebau gan Lywodraeth Cymru a San Steffan tuag at osod band eang gigabeit pan fyddan nhw’n rhan o brosiect grŵp.

Unwaith fydd Openreach wedi gosod y seilwaith, gall trigolion archebu’r band eang cyflym newydd drwy gwmni gwasanaeth o’u dewis.

Yn ddiweddar, fe wnaeth Openreach nifer o gyhoeddiadau am eu cynlluniau adeiladu, gan ychwanegu 415,000 o gartrefi a busnesau at eu cynllun.

Yn ogystal, mae’r cwmni’n gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru er mwyn cyrraedd 5% olaf y wlad sydd heb fynediad i wasanaeth band eang tra-chyflym.

Y bwriad yw cwblhau’r prosiect hwnnw erbyn Mehefin 2022.