Mae bachgen tair oed wedi marw mewn digwyddiad ar fferm yn Sir Benfro.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ddigwydd yn ardal Clunderwen neithiwr (3 Awst) wedi adroddiad am wrthdrawiad rhwng plentyn a cherbyd.

Bu farw’r bachgen yn y fan a’r lle, ac mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau na chafodd neb arall eu hanafu.

Tristwch

“Cafodd heddlu Dyfed-Powys eu galw i wrthdrawiad rhwng cerbyd a phlentyn ar eiddo preifat yn ardal Clunderwen tua 7yh ddydd Mawrth, Awst 3,” meddai’r heddlu mewn datganiad.

“Yn drist iawn, bu farw bachgen tair oed yn y fan a’r lle.

“Mae ymchwiliad i amgylchiadau’r digwyddiad wedi dechrau, ac mae’r teulu’n cael cefnogaeth gan swyddogion arbennig.

“Mae’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch, a’r crwner, wedi cael gwybod.”