Bydd taliad cymorth hunanynysu Llywodraeth Cymru yn cael ei godi o £500 i £750.

Bydd y cynnydd yn dod i rym ar ddydd Sadwrn (Awst 7) a chaiff ei adolygu gan y Gweinidogion ymhen tri mis.

Mae’r taliad wedi’i gynllunio i oresgyn rhai o’r rhwystrau ariannol sy’n wynebu pobl sy’n cael cyfarwyddyd i hunanynysu gan wasanaeth Profi Olrhain Diogelu (TTP) Gwasanaeth Iechyd Cymru am eu bod wedi cael prawf positif, am fod ganddynt symptomau coronafeirws neu am eu bod yn gysylltiadau agos sydd heb eu brechu’n llawn.

Mae’r cynllun taliadau, sydd wedi’i ymestyn tan fis Mawrth 2022, yn helpu i gefnogi pobl na allan nhw weithio gartref yn ogystal â rhieni a gofalwyr â phlant, sydd wedi profi’n bositif ac sy’n hunanynysu.

Disgresiwn

Mae’r elfen yn ôl disgresiwn yn cefnogi pobol nad ydyn nhw’n derbyn budd-daliadau ond sy’n bodloni’r meini prawf eraill ac sydd mewn perygl o galedi ariannol.

Ers ei lansio mae’r elfen yn ôl disgresiwn wedi’i hesblygu i gynnwys y rhai sy’n ennill hyd at £500 yr wythnos.

Y bwriad wrth gynyddu’r swm yw digolledu unrhyw un sy’n ennill hyd at y trothwy incwm personol ac yn collli cyflog dros y cyfnod hunanynysu o ddeg diwrnod.

“Mae mwy na 14,518 o daliadau cymorth wedi’u gwneud ers mis Tachwedd 2020 ac rydym wedi ymrwymo i barhau i gefnogi’r rhai sydd ei angen wrth inni ddod allan o’r pandemig,” meddai Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.

“Mae’r taliadau hyn yn hanfodol a bydd y cynnydd i £750 yn rhoi sicrwydd pellach i unrhyw un y mae’r gwasanaeth TTP wedi dweud wrthynt am hunanynysu, ond a allai brofi caledi ariannol yn sgil gorfod aros gartref.”

Lledaenu

“Mae’r awdurdodau lleol wedi ymateb i’r her o sicrhau bod y taliadau’n cael eu gwneud yn gyflym i’r bobol sydd eu hangen,” meddai wedyn.

“Mae’r awdurdodau lleol wedi cael cyngor pellach ar sut y gallant ddarparu cymorth ymarferol a chefnogaeth i ymgeiswyr wrth iddynt wneud cais am y taliad.”

“Mae mor bwysig bod pobl yn hunanynysu os ydyn nhw’n profi’n bositif am COVID-19 neu os ydyn nhw’n gysylltiad agos sydd heb ei frechu’n llawn, er mwyn atal y feirws rhag lledaenu a diogelu teulu a ffrindiau,” meddai Eluned Morgan, yr Ysgrifennydd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedyn.

“Mae ein gwasanaeth TTP yn hynod effeithiol o ran cefnogi pobol a rhoi cyngor i’r rhai sydd wedi profi’n bositif am y feirws. Mae’n bwysig ein bod yn parhau i fuddsoddi i roi cymorth i’r rhai sydd ei angen fwyaf.

“Brechlynnau yw’r ffordd orau inni allu dod o’r pandemig.

“Mae gennym raglen frechu sydd ymysg y gorau yn y byd, ac rwy’n annog unrhyw un sydd heb gael ei frechu i fanteisio ar y cynnig.”

‘Cam i’w groesawu ond yn hynod o hwyr’

“Mae Plaid Cymru wedi bod yn galw am gynnydd mewn taliadau hunanynysu ers mis Hydref 2020, bron i flwyddyn, ac felly mae hwn yn gam i’w groesawu ond yn hynod o hwyr,” meddai Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru.

“Mae SAGE wedi cynghori’r cynnydd hwn mewn cymorth ers cryn amser.

“Mae ofn caledi ariannol yn rhwystr enfawr i hunanynysu effeithiol, ac felly mae codi lefel y gefnogaeth yn gam hollbwysig wrth fynd i’r afael â’r pandemig.

“Rwyf hefyd yn croesawu cymhwysedd rhieni a gofalwyr i gael taliadau pan fydd eu plant yn ynysu, rhywbeth arall y mae Plaid Cymru wedi galw amdano.”