Dydy penderfyniadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch teithio rhyngwladol yn gwneud fawr ddim i gynnig hyder nag eglurder i deithwyr, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn galw am system reolau gliriach ar gyfer teithio rhyngwladol ers peth amser, medden nhw.
Daw hyn wrth i weinidogion San Steffan adolygu’r system oleuadau traffig ar gyfer Lloegr fel a ganlyn:
- Fydd Ffrainc ddim ar restr ‘amber plus‘ Lloegr o 04:00 BST ddydd Sul, sy’n golygu na fydd yn rhaid i’r rhai sy’n cyrraedd, ac wedi’u brechu’n llawn, hunanynysu mwyach – cafodd y wlad ei rhoi ar y rhestr fis diwethaf, oherwydd pryderon am amrywiolyn Beta, y mae gwyddonwyr yn credu y gallai fod yn fwy gwrthwynebus i frechlynnau.
- Mae saith gwlad wedi’u hychwanegu at y rhestr werdd ar gyfer teithio gan gynnwys yr Almaen, Awstria a Norwy.
- Er gwaethaf dyfalu ymlaen llaw, bydd Sbaen yn aros ar y rhestr ambr, gan alluogi teithwyr sydd wedi’u brechu’n llawn barhau i ddychwelyd heb gwarantin – fodd bynnag, cynghorir teithwyr sy’n cyrraedd y Deyrnas Unedig o Sbaen bellach i gymryd prawf PCR fel “rhagofal yn erbyn y cynnydd yn nifer yr achosion o’r feirws ac amrywiolion yn y wlad”.
Er hynny, mae Llywodraeth Cymru’n parhau i gynghori pobol yn erbyn teithio dramor eleni yn sgil pryderon ynghylch amrywiolion Covid-19.
“System reolau gliriach”
“Rydyn ni wedi galw ers peth amser am system reolau gliriach ar gyfer teithio rhyngwladol,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru cyn cyhoeddiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Nid yw natur ad-hoc penderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwneud fawr ddim i roi hyder i deithwyr, na chynnig eglurder.
“Rydyn ni’n parhau i gynghori yn erbyn holl deithio tramor, oni bai ei fod yn hanfodol, oherwydd y risg parhaus o heintiadau, gan gynnwys gydag amrywiolion newydd na fydd, efallai, yn ymateb i’n brechlynnau.”
Cymru i ddilyn?
“Byddwn ni’n ystyried y newidiadau diweddaraf fydd yn cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig,” meddai’r llefarydd.
Y tro diwethaf, fe ddilynodd Llywodraeth Cymru benderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ond gan ddweud eu bod nhw’n “gresynu at gynigion Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gael gwared ar ragor o ofynion cwarantîn”.
Bryd hynny, dywedodd Llywodraeth Cymru y “byddai’n aneffeithiol i gyflwyno trefniadau ar wahân ar gyfer Cymru”, a hynny “gan ein bod yn rhannu ffin agored â Lloegr”.