Mae’r oedi rhwng trosglwyddo cleifion o gerbydau i mewn i ysbyty yng Nghwmbrân yn “dinistrio’r enaid” medd un gweithiwr ambiwlans.

Yn ôl adroddiadau, mae ciwiau o dros ddwsin o ambiwlansys wedi bod yn disgwyl tu allan i Ysgol Athrofaol Y Faenor yn ystod y tywydd poeth diweddar.

Roedd y gweithiwr wedi dweud ei bod hi’n “jôc” mai’r gwasanaeth ambiwlans sy’n derbyn sylw gwael, er mai “nid eu bai nhw” yw’r sefyllfa.

Y Blaid Lafur sydd wedi rheoli’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru ers 1997 – hynny fel Llywodraeth San Steffan tan 1999 pan sefydlwyd y Senedd.

Mae’r Ceidwadwr Cymreig, Russell George AS, sy’n Weinidog yr Wrthblaid dros Iechyd, wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am y sefyllfa yn ysbyty’r Faenor, sydd ond wedi ei hagor ers 2020.

Ciwiau

“Amseroedd aros yw un o’r materion mwyaf cyffredin sy’n cael ei godi gan bobl o ran GIG Cymru: boed hynny yn ddisgwyl am ambiwlansys eu cyrraedd, treulio oriau mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, neu fisoedd o ofid cyn llawdriniaeth,” meddai.

“Nid yw clywed am giwiau ambiwlans y tu allan i ysbytai yn syndod mewn gwirionedd.

“Fodd bynnag, mae’r ffaith bod hyn yn digwydd mewn ysbyty newydd – gyda chwynion gan weithwyr iechyd sy’n cael eu hatal rhag symud cleifion rhwng dau ysbyty – yn dangos diffyg rhagwelediad gan Lywodraeth Cymru.

“Mae’n bwysig nawr bod y Gweinidog ac arweinwyr bwrdd iechyd Aneurin Bevan yn gwrando ar gleifion ac yn ymgynghori â’r rhai sy’n gweithio ar reng flaen yr ysbyty, ac yn gweithredu yn unol â hynny i sicrhau bod gan y ddau ohonyn nhw’r gwasanaeth iechyd gorau posib.”