Mae technoleg newydd ar fin cael ei gyflwyno i ystafell reoli Heddlu Gogledd Cymru sydd yn rhoi’r gallu i swyddogion ffrydio digwyddiadau yn fyw.
Bydd meddalwedd On Call, sydd wedi costio £5.8 miliwn, yn galluogi staff sy’n ymateb i ddigwyddiadau brys gael gwell dealltwriaeth o sefyllfaoedd a lleihau’r straen sydd arnyn nhw.
Mae’r ystafell reoli yn Llanelwy yn delio â 80,000 o alwadau 999 y flwyddyn ar gyfartaledd, yn ogystal â 250,000 o alwadau sydd ddim yn rhai brys.
Yn ddyddiol, maen nhw’n delio â thua 1,100 o gysylltiadau bob dydd, wrth ychwanegu cyfathrebu e-bost a sgyrsiau ar y we.
Mae’r dechnoleg hefyd yn galluogi’r ystafell reoli i ganfod lleoliadau union digwyddiadau a rhyngweithio gyda heddweision sy’n bresennol yno.
Arbed bywydau
Mae Paul O’Shea, rheolwr ystafell reoli Heddlu Gogledd Cymru, wedi egluro’n fanylach pam eu bod nhw wedi gwario cymaint o arian ar y system hon.
“Pan fydd yr ail gam yn cychwyn byddwn yn gallu ffrydio digwyddiad yn fyw, rhywbeth nad oedd y system bresennol yn gallu ei wneud, a bydd Rheolwr Digwyddiadau’r Heddlu yn gallu ei weld.
“Ar yr un pryd byddwn yn gallu rhannu popeth sydd gyda ni efo’r swyddogion yn y fan a’r lle.
“Os oes gennych chi berson ar goll gallwch atodi ffotograff i’r digwyddiad a’i anfon ac os ydych chi’n riportio digwyddiad a ddim yn hollol siŵr ble rydych chi, mi allwn ni anfon neges destun atoch a’r cyfan fydd raid i chi ei wneud yw ateb y neges ac mi fydd hynny’n dweud wrthym yn union ble rydych chi.
“Os dynnwch chi ffotograff o ble rydych chi, gallwn ddefnyddio’r data yn y ffotograff i ddweud wrthym ble rydych chi a gosod hynny yn y digwyddiad a rhoi marc ar y map i ddweud wrthym ble rydych chi.
“Mae’n barod ar gyfer y Rhwydwaith Gwasanaethau Brys newydd sy’n disodli’r system Airwave bresennol – rydym ar flaen y gad o ran gallu anfon gyda chymorth cyfrifiadur.
“Bydd yn arbed bywydau ond bydd hefyd yn ysgafnhau’r baich ar ysgwyddau ein staff yn yr ystafell reoli.”
Helpu’r ‘arwyr â chlustffonau’
Mae gweld technoleg yn chwarae rhan fwy blaenllaw yng ngwaith Heddlu Gogledd Cymru yn galondid mawr meddai’r Comisiynydd, Andy Dunbobbin.
“Fel rhywun sydd â chefndir yn y maes technoleg, rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod Heddlu Gogledd Cymru yn cael yr offer a’r cyfarpar gorau sydd ar gael.
“Dyna pam rwy’n falch iawn o allu buddsoddi yn y system anfon â chymorth cyfrifiadur newydd i ategu’r gwaith rhagorol sydd eisoes yn digwydd yn yr ystafell reoli.
“Er efallai nad ydyn nhw’n weladwy yn y ffordd draddodiadol gan fod pawb ohonom yn hoffi gweld heddlu yn cerdded y strydoedd, ond mae’r staff yn yr ystafell reoli yn gweithio y tu ôl i’r llenni ac mae’n dda iawn gweld sut mae’r cyfan yn asio gyda’i gilydd.
“Bydd y system newydd hon yn gwneud gwahaniaeth enfawr a bydd yn helpu’r arwyr â chlustffonau yma i arbed hyd yn oed mwy o fywydau.”