Mae Boris Johnson wedi gwrthod gwahoddiad gan Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, i gwrdd â hi yn ei chartref swyddogol Tŷ Bute.
Ddydd Llun, gwnaeth Nicola Sturgeon wahodd y Prif Weinidog i drafod cynlluniau ar gyfer adfer y wlad wedi’r pandemig.
Yn hytrach, mae Boris Johnson wedi gwrthod y cynnig gan awgrymu y dylai’r ddau gwrdd gyda Phrif Weinidogion eraill y Deyrnas Unedig ar ddyddiad arall yn y dyfodol.
Mae’r Prif Weinidog ar ymweliad deuddydd yn yr Alban gan ymweld â swyddogion heddlu â phrosiectau ynni adnewyddadwy.
Mewn llythyr gan Downing Street mae’n annog Nicola Sturgeon i gydweithio â fe ar gynllun brechu dros yr Hydref.
“Mae gennym ni lawer i’w drafod wrth i bob rhan o’r Deyrnas Unedig gydweithio ar ein blaenoriaeth gyffredin i adfer wedi’r pandemig,” meddai Boris Johnson.
“Rwy’n awyddus yn benodol i weithio gyda’n gilydd ar yr ymgyrch frechu dros yr Hydref.
“Mae Llywodraeth y DU yn gweithio’n agos gyda llywodraeth ddatganoledig yr Alban ar amrywiaeth o faterion gwahanol.”
Fe wnaeth Nicola Sturgeon roi llun o’r llythyr at Boris Johnson ar Twitter.
I understand the PM will visit Scotland later this week. Since this would be our first opportunity to meet in person for a while, I’ve invited him to Bute House to discuss Covid/recovery. We differ politically, but our governments must work together where we can. pic.twitter.com/Fo4N4nr2oN
— Nicola Sturgeon (@NicolaSturgeon) August 2, 2021
Dywedodd: “Rwy’n deall y bydd y Prif Weinidog yn ymweld â’r Alban yn ddiweddarach yr wythnos hon. Gan mai dyma fydd y cyfle cyntaf i ni gwrdd wyneb yn wyneb ers peth amser, rwyf wedi ei wahodd i Dŷ Bute i drafod Covid/adferiad. Mae gynnon ni wahaniaeth barn yn wleidyddol, ond mae’n rhaid i’n llywodraethau gydweithio lle bynnag bod modd gwneud hynny.”
Dyma’r tro cyntaf i Boris Johnson fod yn yr Alban ers y cyfnod clo ym mis Ionawr, pan ddywedodd Nicola Sturgeon nad oedd ei ymweliad yn “angenrheidiol”.
Yn ogystal, dyma’r tro cyntaf iddo ddychwelyd ers etholiad Senedd yr Alban ym mis Mai – ble pleidleisiodd y mwyafrif o bobl dros bleidiau sydd o blaid annibyniaeth.
Dywedodd Downing Street ei fod yn bwysig i’r Prif Weinidog fod yn “weladwy ac yn hygyrch” yn ystod y pandemig.
Yn ystod cynhadledd flynyddol yr SNP ym mis Medi mae disgwyl i’r blaid amlinellu cynigion ar gyfer ail refferendwm ar annibyniaeth.
Mae Boris Johnson wedi dweud yn gyson na fydd yn caniatáu hynny.
Ond yr wythnos ddiwethaf fe ddyweodd Michael Gove, y Gweinidog dros Swyddfa’r Cabinet y byddai pleidlais ar refferendwm ond yn cymryd lle os oes cefnogaeth glir o blaid hynny.
Mae arweinydd y Blaid Lafur, Keir Starmer hefyd yn yr Alban yr wythnos hon gan gychwyn ei daith heddiw yn ninas Glasgow.